Trydydd parti
,
-
,
Cardiff Medicentre, Heath Park Way, Caerdydd CF14 4UJ
Ydy eich busnes chi yn barod i ddefnyddio grym Deallusrwydd Artiffisial?

Efallai eich bod chi’n cael eich drysu gan yr holl drafod am Ddeallusrwydd Artiffisial, neu efallai eich bod chi’n ymwybodol o’r manteision ond yn ansicr sut i ddechrau defnyddio’r dechnoleg yn eich cwmni.
Yn ystod y digwyddiad hwn, byddwn ni’n mynd ati i geisio diffinio Deallusrwydd Artiffisial, ac yn rhoi gwybodaeth i arweinwyr busnesau ynglŷn â sut i ddefnyddio’r dechnoleg arloesol hon er mwyn rhoi'r hyder i chi fanteisio ar dechnolegau’r dyfodol heddiw.
- Dewch i ddysgu am alluoedd sgwrtfotiaid modern, modelau iaith mawr, a diogelwch data; byddwn ni’n trafod sut mae’r pethau hyn yn gweithio a’u heffaith posibl ar fusnesau.
- Manteisiwch ar y cyfle hwn i edrych ar botensial dulliau prosesu signalau datblygedig a golwg cyfrifiadurol ym maes Technoleg Feddygol.
- Craffwch ar y materion rheoleiddio sy’n codi wrth roi technolegau Deallusrwydd Artiffisial ar waith ym maes meddygaeth a gofal iechyd.
- Dewch i glywed am yr amrywiol bethau y mae Deallusrwydd Artiffisial yn gallu eu gwneud, ac effaith hynny ar lwyddiant busnesau.
Diddordeb mewn mynychu?