Trydydd parti
,
-
,
National Exhibition Center, Halls, Marston Green, Birmingham B40 1PA

Ymunwch yn Birmingham 18-19 Mawrth 2025 ar gyfer cynhadledd iechyd digidol fwyaf a gorau’r DU. Gyda llwyfannau newydd, parthau nodwedd cyffrous a mwy o gyfleoedd rhwydweithio nag erioed o’r blaen, fyddwch chi ddim eisiau colli’r cyfle.

Digital Health Rewired event

Rewired 2025 yw’r arddangosfa iechyd digidol fwyaf yn y DU sy’n cysylltu pawb sy’n gweithio i ddefnyddio digidol a data i gyflawni gwelliannau mewn iechyd a gofal.

Mae'r digwyddiad yn dod â darparwyr a chynllunwyr gofal iechyd, ymchwilwyr ac academyddion, arweinwyr diwydiant sefydledig, cyflenwyr a'r busnesau newydd diweddaraf a mwyaf cyffrous ynghyd i roi sylw i sut mae'r GIG yn cyflawni cynhyrchiant, tegwch a chanlyniadau gwell drwy dechnolegau ac arloesiadau ym maes iechyd digidol.

Mae’r sioe, sy’n cael ei chynnal ar 18-19 Mawrth yn yr NEC yn Birmingham, yn llawn gwybodaeth ac ysbrydoliaeth i unrhyw un sydd eisiau dysgu gan siaradwyr iechyd digidol gorau’r DU ac astudiaethau achos o’r GIG.

Os ydych chi’n awyddus i wneud pethau gwych ym maes iechyd digidol, Rewired yw’r digwyddiad hanfodol ar gyfer rhwydweithio, dysgu a datblygu eich gyrfa.

Awydd mynychu?