Digwyddiad Data Mawr: Dysgu Mewn Partneriaeth ydy’r pedwerydd mewn cyfres o ddigwyddiadau sy’n arddangos y datblygiadau diweddaraf mewn dadansoddeg ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Croeso i’r Digwyddiad Data Mawr Ar-lein, Dysgu mewn Partneriaeth. Ymunwch â ni ar gyfer pedwerydd digwyddiad y gyfres, sy’n canolbwyntio ar arddangos y datblygiadau diweddaraf o ran dadansoddi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Menter Dadansoddeg Uwch yr Adnodd Data Cenedlaethol yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru sy’n gyfrifol am ddarparu digwyddiadau Data Mawr, mewn partneriaeth â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Y nod yw cyfateb heriau i’r arbenigedd sydd ei angen i ddarparu atebion, gan ysbrydoli cydweithrediad a dysgu, a sbarduno arloesedd sy’n gwella iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru.
Mae’r gyfres yn parhau i archwilio gorwelion newydd ym maes dadansoddeg uwch, gan adeiladu ar fomentwm digwyddiadau blaenorol. Mae gwahoddiad i weithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, y byd academaidd, Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru ddod i archwilio sut gall data mawr drawsnewid eu gwaith. Bydd y weminar hon yn canolbwyntio ar Ddysgu mewn Partneriaeth a Data Mawr.
Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno!