Trydydd parti
,
-
,
Ulster University, York Street Belfast, BT15 1ED
Mae’r Cysylltydd Iechyd Byd-eang, ECHAlliance, yn falch iawn o gynnal Cynulliad Ecosystem y Pum Gwlad: “Creu Cysylltiadau Byd-eang” ar 15 Mai 2025, ym Mhrifysgol Ulster, Belfast.

Cynhelir y cyfarfod ar y cyd â Phrifysgol Ulster a bydd yn canolbwyntio ar ofal cymdeithasol, deallusrwydd artiffisial, cyllid ac iechyd a'r economi. Mae'r digwyddiad am ddim.
Bydd y digwyddiad dylanwadol hwn yn dod â rhanddeiliaid allweddol o Gymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon at ei gilydd.
Ar ben hynny, bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn elwa o gyfraniadau ar-lein gan arweinwyr iechyd o Affrica, India, Unol Daleithiau America ac Ewrop, gan greu trafodaeth wirioneddol fyd-eang ar fynd i’r afael â heriau iechyd a gofal dybryd.
Diddordeb mewn mynychu?