Mae Expo Peirianneg Electronig a Biofeddygol yn ddigwyddiad addysgiadol annibynnol sy’n dwyn ynghyd weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n gyfrifol am reoli offer meddygol.

Mae’r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol hyn yn ymwneud â meysydd fel caffael, cynnal a chadw, hyfforddi defnyddwyr, a rheoli stocrestrau.
Bydd arddangosfa annibynnol o dros 130 o gwmnïau a fydd yn dangos y technolegau a’r offer diweddaraf sydd gan y diwydiant meddygol i’w cynnig yn y meysydd hyn:
-
Offer Delweddu
-
Anesthesia
-
Labordai a Diagnosteg
-
Llawfeddygaeth ac Endosgopi
-
Monitro Cleifion
-
Monitorau
-
Batris a Phŵer
-
ECG
-
Defnyddiau Traul
-
Rheoli Asedau
-
Hyfforddiant
Bydd cyfres o weithdai hefyd mewn ardaloedd ymylol ac arddangosiadau technegol gan arddangoswyr (mae’n bosibl trefnu lle yn y gweithdai cyn y digwyddiad, yn https://www.ebme-expo.com/workshop-programme-2023)
Mae rhaglen lawn y digwyddiad i’w gweld yma: Rhaglen o ddigwyddiadau yng nghynhadledd genedlaethol Peirianneg Electronig a Biofeddygol ac Expo Peirianneg Electronig a Biofeddygol.
Rydyn ni’n edrych ymlaen at fod yn arddangoswyr yn yr arddangosfa hon, a byddwn ni ar stondin A15. Yn awyddus i gwrdd? Cysylltwch â ni drwy hello@lshubwales.com i drefnu cyfarfod.