Trydydd parti
-
Edinburgh International Conference Centre
Grymuso’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr bywyd drwy chwalu rhwystrau, creu cysylltiadau, a hybu arloesi er mwyn dyfodol mwy cynhwysol.

Mae Fforwm Dyfodol Gwyddonwyr Bywyd Lleiafrifiedig yn agored i bawb sy’n frwd ynglŷn â ffurfio dyfodol STEM. Os ydych chi’n athro prifysgol, yn dechrau ar eich gyrfa fel ymchwilydd, myfyriwr PhD, neu weithiwr proffesiynol mewn diwydiant, mae hwn yn ddigwyddiad ar eich cyfer chi.
Rydym yn annog yn fwyaf arbennig rai o gymunedau sydd wedi’u tangynrychioli neu eu hymyleiddio, eiriolwyr amrywiaeth, ac unrhyw un sydd wedi ymrwymo i greu cymuned wyddonol fwy cynhwysol a theg i ymuno.
Diddordeb mewn mynychu?