Datrysiadau ymarferol er mwyn cyflawni nod y Llywodraeth o symud 'gofal yn nes at y cartref.'

Mae angen gweithredu ar bob lefel er mwyn symud rhywun o ysbyty i leoliadau gofal sylfaenol a chymunedol. Bydd ail-gydbwyso’r GIG yn gwella canlyniadau i gleifion ac yn lleihau’r baich y mae afiechydon yn ei roi ar yr economi. Mae disgwyl i’r cynllun iechyd deng mlynedd gael ei gyhoeddi ym mis Mai, ac mae ymrwymiad lleol a chenedlaethol o’r newydd i ddatblygu’r cynllun er mwyn sicrhau bod addewid y llywodraeth yn troi’n bolisi a’n cael ei roi ar waith.
Mae arweinwyr ym maes gofal sylfaenol a gwasanaethau cymunedol o bob rhan o’r wlad wedi trafod yr heriau lu sy’n wynebu'r GIG, ac maen nhw eisoes wedi dangos sut gall y newid hwn ddigwydd. Mae'r gynhadledd ni yn gyfle cyffrous i ddod â gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal, arbenigwyr lleol a chenedlaethol, a siaradwyr ysbrydoledig ynghyd i edrych ar ddyfodol gofal yn nes at y cartref.