Ymunwch â gweminar Rhwydwaith Iechyd a Gofal Menywod sy’n Arweinwyr (HCWLN) ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod. Cewch glywed areithiau gan siaradwyr gwadd, cymryd rhan mewn sesiynau panel ac ystyried sut gallwch chi rymuso menywod a gwella cynhwysiant mewn gofal iechyd.

Ymunwch â gweminar Rhwydwaith Iechyd a Gofal Menywod sy’n Arweinwyr (HCWLN) ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod i ddeall mwy am gydraddoldeb rhwng y rhywiau a dysgu gan eraill sydd wedi ymrwymo i hybu cynhwysiant i fenywod. Cynhelir y gweminar ddydd Gwener 7 Mawrth rhwng 10am - 12pm.
Bydd y digwyddiad yn canolbwyntio ar thema eleni, sef ‘Hawliau. Cydraddoldeb. Grymuso POB Menyw a Merch’. Ymhlith y siaradwyr gwadd bydd Y Fonesig Marie Gabriel, ymddiriedolwr a chadeirydd Arsyllfa Hil ac Iechyd y GIG, a Louise Ansari, prif weithredwr Healthwatch England. Bydd yna hefyd drafodaethau panel ac esiamplau sy’n tynnu sylw at brofiadau amrywiol menywod mewn iechyd a gofal.
Mae’r digwyddiad yn agored i bawb. Archebwch eich lle am ddim i archwilio sut gallwch chi rymuso menywod a gwella cydraddoldeb rhwng y rhywiau mewn gofal iechyd.