Trydydd parti
-
Ar lein
Fe'ch gwahoddir i Weminar Technoleg Flaengar MIT ar Ddinasoedd Clyfar a Datblygu Trefol, a fydd yn cynnwys mewnwelediadau blaengar gan ymchwilwyr MIT adnabyddus.

Bydd y digwyddiad hwn yn ystyried sut gall dinasoedd ddefnyddio data, ymchwil gweithrediadau, deallusrwydd artiffisial a dysgu peirianyddol i optimeiddio logisteg a gwella bywyd trefol. Bydd y siaradwyr gwadd yn rhannu eu safbwyntiau ynghylch atebion arloesol ar gyfer heriau logisteg drefol, rôl dadansoddi data wrth gynllunio dinasoedd, a strategaethau ar gyfer datblygu cynaliadwy.
P'un a ydych chi'n gynllunydd dinasoedd neu'n frwd dros dechnoleg, mae'r gweminar hwn yn addo rhannu safbwyntiau gwerthfawr â chi ynghylch dyfodol dinasoedd clyfar.
Diddordeb mewn mynychu?