Trydydd parti
-
Mercure Holland House Hotel, 24 26 Newport Road, Cardiff CF24 0DD

Bydd Gwobrau Arloesi MediWales yn cael eu cynnal am y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg ddydd Iau 5 Rhagfyr 2024, yng Nghaerdydd.

A young man celebrating winning an award

Mae MediWales yn edrych ymlaen at groesawu aelodau ein diwydiant, y byd academaidd, a staff iechyd a gofal cymdeithasol i Westy Mercure Holland House, Caerdydd, am noson hyfryd i ddathlu llwyddiannau anhygoel y sector Gwyddorau Bywyd yng Nghymru. 

Mae Gwobrau Arloesi MediWales yn wobrau rhanbarthol, fel rhan o rwydwaith ehangach Medilink UK. Bydd pob un o enillwyr Gwobrau’r Diwydiant yn cael eu cynnwys yn awtomatig yng Nghystadleuaeth Genedlaethol Medilink y DU. Caiff y Gwobrau Arloesi eu rhannu’n ddau gategori: Gwobrau’r Diwydiant a Gwobrau Iechyd. Dim ond cwmnïau o Gymru, neu gwmnïau sy’n cael effaith yng Nghymru, sy’n gymwys i wneud cais am Wobrau’r Diwydiant. Dim ond byrddau iechyd Cymru neu gwmnïau sy’n gweithio ar y cyd â bwrdd iechyd yng Nghymru sy’n gymwys i wneud cais am y Gwobrau Iechyd. 

Rhaid i bob cais ar gyfer y Gwobrau Iechyd ddod gan y gweithwyr iechyd proffesiynol/clinigwyr/bwrdd iechyd y mae’r cwmni wedi cydweithio â nhw. 

Cofrestrwch eich lle.