Trydydd parti
-
SWALEC Stadium, Sophia Gardens, Cathedral Road, Cardiff CF11 9XR

Mae Gwobrau GIG Cymru yn ôl ar gyfer 2024, i arddangos y gwaith gwella ansawdd a diogelwch anhygoel sydd wedi trawsnewid profiadau a chanlyniadau i bobl yng Nghymru.

A glowing star on a black background

Mae Gwobrau GIG Cymru 2024 yn cynnwys 12 categori newydd sbon, sy’n cyd-fynd â’r Ddyletswydd Ansawdd a Safonau Ansawdd Iechyd a Gofal. Ymhlith y categorïau newydd mae Gwobr y Gweinidog am Ragoriaeth mewn Gwelliant ac Ansawdd, a ddewisir o blith y 12 enillydd a gwobr y pleidleisiwyd amdani gan gymheiriaid o fewn GIG Cymru. 

Os ydych chi wedi gwneud newid, boed yn fawr neu’n fach, dyma eich cyfle i arddangos eich gwaith caled. Gall eich syniadau ar gyfer newid wneud gwahaniaeth go iawn i’r bobl yn eich gofal, eich sefydliad a’r system iechyd a gofal gyfan. Os cewch eich dewis i gyrraedd y rownd derfynol, byddwch yn cael cyfarfod rhithiol gyda’n beirniaid er mwyn iddyn nhw gael rhagor o wybodaeth am eich gwaith gwella ansawdd. Byddwch hefyd yn cael gwahoddiad i’r seremoni wobrwyo. 

Fel enillydd, byddwch yn cael cynnig cymorth parhaus a llwyfan i rannu eich gwaith yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, a hynny er mwyn i ni allu parhau i gyfrannu at y gwaith o drawsnewid iechyd a gofal yng Nghymru a’r tu hwnt. Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn ystod seremoni Gwobrau GIG Cymru 2024.

Darganfyddwch mwy a chymerwch rhan.