Mae’r Gwobrau yn cydnabod, yn dathlu ac yn rhannu gwaith nodedig ym maes gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.
Mae’r gwobrau’n cydnabod gwaith grwpiau, timau a mudiadau, yn ogystal â gweithwyr o bob rhan o’r sectorau cyhoeddus, preifat, gwirfoddol a chydweithredol yng Nghymru. Mae chwe chategori yng Ngwobrau 2025: Pedwar ar gyfer timau, grwpiau a mudiadau a dau ar gyfer gweithwyr unigol.
Categorïau ar gyfer timau, grwpiau a sefydliadau
- Adeiladu dyfodol disglair i blant a theuluoedd
- Datblygu ac ysbrydoli’r gweithlu
- Gweithio mewn partneriaeth
- Gweithio yn unol ag egwyddorion ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau
Ym mhob categori, bydd ein beirniaid yn chwilio am dystiolaeth o waith newydd sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau’r plant, y teuluoedd a’r oedolion a gefnogant.
Categorïau ar gyfer gweithwyr unigol
- Gwobr arweinyddiaeth effeithiol
- Gwobr Gofalwn Cymru
Ym mhob categori, bydd ein beirniaid yn chwilio am weithwyr eithriadol o bob rhan o’r sectorau gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar sy’n mynd y tu hwnt i ofynion arferol eu rôl o ddydd i ddydd i helpu’r bobl a gefnogant i gyflawni’r hyn sy’n wirioneddol bwysig iddyn nhw.