Trydydd parti
-
Brangwyn Hall , Swansea
Lansiwyd Gwobrau Gofalwn Gyda'n Gilydd i ddathlu rhagoriaeth ym meysydd gofal cymdeithasol, gofal plant, chwarae a'r blynyddoedd cynnar yng Ngorllewin Morgannwg.
Mae Gofalwn Cymru, Cyngor Abertawe a Chyngor Castell-nedd Port Talbot yn falch o lansio Gwobrau Gofalwn Gyda'n Gilydd, digwyddiad newydd uchel ei fri sy'n ymroddedig i anrhydeddu'r gweithwyr proffesiynol eithriadol ym meysydd gofal cymdeithasol, gofal plant, chwarae a'r blynyddoedd cynnar yn rhanbarth Gorllewin Morgannwg (Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot).
Nod y gwobrau yw dathlu cyflawniadau eithriadol, arddangos arferion gorau a chydnabod y cyfraniadau allweddol y mae'r gweithwyr proffesiynol hyn yn eu gwneud at les unigolion a chymunedau.
Diddordeb mewn mynychu?