Trydydd parti
-
Excel Centre London, Royal Victoria Dock, 1 Western Gateway, Llundain E16 1XL

Gyda 5,000 a mwy o bobl yn bresennol, Gŵyl Genomeg a Bioddata yw digwyddiad gwyddorau bywyd blynyddol mwyaf y DU erbyn hyn.

A woman speaking at a conference

Diolch i gefnogaeth llawer o bobl a sefydliadau gwahanol, mae’r ŵyl wedi sefydlu ei hun i fod yn ddathliad blynyddol ar gyfer cymuned genomeg y DU. Mae hefyd yn cwmpasu cymaint mwy na genomeg; gan gynnwys bioddata, diagnosteg, darganfod cyffuriau, deallusrwydd artiffisial, proteomeg, aml-omeg a dadansoddi gofodol a chelloedd unigol.

Ym mis Ionawr 2024, fe wnaethom groesawu 280 o siaradwyr a mwynhau 12 theatr o gynnwys, y Genome Dome, Talkaoke, trafodaethau bwrdd crwn, gweithdai, llawr arddangos bywiog, rhwydweithio cyflym a llawer mwy. 

Edrychwn ymlaen at eich croesawu i’r Ŵyl Genomeg a Bioddata nesaf yn Llundain ar 29-30 Ionawr 2025.

Cofrestrwch eich lle.