Dewch i drafod potensial trawsnewidiol technolegau iechyd digidol.

Mae Rhwydwaith Arloesedd Prifysgol Caerdydd yn cynnal digwyddiad ar y cyd â Sefydliad Arloesedd Trawsnewid Digidol Prifysgol Caerdydd a Medicentre Caerdydd, a fydd yn trin a thrafod potensial trawsnewidiol technolegau iechyd digidol.
Mae Cymru yn manteisio ar dechnolegau digidol i greu system gofal iechyd mwy effeithlon, sy'n canolbwyntio ar gleifion, ac sy'n barod i gwrdd â heriau'r dyfodol a chroesawu datblygiadau arloesol.
O fapio esblygiad genetig pandemig COVID-19 i rymuso cleifion gydag apiau a dyfeisiau y gellir eu gwisgo, mae trawsnewid digidol yn chwyldroi'r ffordd rydyn ni'n meddwl am ein hiechyd.
Mae trawsnewid digidol ym maes gofal iechyd yn dibynnu ar bobl i dderbyn a mabwysiadu'r ffyrdd newydd hyn o weithio.
Pam ddylech chi fynd i’r digwyddiad?
- Cael gwybodaeth am y tueddiadau a'r datblygiadau diweddaraf ym maes gofal iechyd digidol.
- Rhwydweithio a meithrin cysylltiadau gwerthfawr.
- Cael cyfleoedd newydd i gydweithredu ac arloesi.