Trydydd parti
-
All Nations Centre, Caerdydd

Cynhadledd gydweithredol GIG Cymru ar gyfer iechyd a gofal yn y gymuned yng Nghymru: MediWales Connects.

People networking

Cynhelir MediWales Connects ar 17 Mehefin 2025 yng Nghanolfan yr Holl Genhedloedd, Caerdydd. Bydd y gynhadledd yn dod â thimau a chydweithwyr y GIG ynghyd o'r gymuned iechyd a gofal ledled Cymru, yn ogystal â'r diwydiant yn ehangach, i rannu arloesedd clinigol a syniadau i wella canlyniadau i gleifion. Nod y gynhadledd yw:            

  • Arddangos y gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud gan gymunedau iechyd a gofal yng Nghymru.
  • Gwella cydweithio rhwng byrddau iechyd, diwydiant a chymunedau ymchwil.
  • Codi proffil GIG Cymru ac arloesedd clinigol ledled y DU.
  • Cefnogi cysylltiadau gwaith agosach rhwng diwydiant, y GIG a grwpiau ymchwil a threialon clinigol.

Bydd cyfleoedd yn y gynhadledd i gymryd rhan mewn gweithdai rhyngweithiol, arddangosfeydd, technolegau newydd, iechyd digidol, arloesi yn y GIG, a chyfleoedd i weithio mewn partneriaeth. 

Darganfyddwch mwy am y digwyddiad, neu cysylltwch â Bethan ar bethan.davies@mediwales.com.