Bwriad y weminar rhyngweithiol hon yw edrych yn fanylach ar fanteision ac effeithiau arloesedd ym maes iechyd a gofal.

Mae’r weminar hon yn rhan o gyfres ‘Innovation Insights’ y Rhwydwaith Arloesedd Iechyd. Bydd y sesiwn hwn yn rhoi sylw i’r ffordd rydym ni’n mesur manteision ac effeithiau arloesedd ym maes iechyd a gofal, sef pwnc diddorol a heriol ar adegau.
Bydd y sesiwn rhyngweithiol hwn yn para awr ac yn cael ei arwain gan Glen Howard, Pennaeth Dadansoddeg a Gwerthuso yng Nghanolfan Arloesedd Iechyd Dwyrain Canolbarth Lloegr. Yn ystod y sesiwn byddwch chi’n cael trosolwg o’r materion sy’n gysylltiedig ag adnabod manteision i'r cleifion, i’r gweithlu, ac i sefydliadau iechyd a gofal, yn ogystal â chyfle i drafod yr heriau sydd yn codi wrth fynd ati i fesur y manteision hyn.