Cydffederasiwn Iechyd a Gofal Cymdeithasol Gogledd Iwerddon 2024 (NICON 2024) yw’r digwyddiad cyntaf ar gyfer arweinwyr a phartneriaid y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gan ddod â nhw at ei gilydd i drafod sut mae sicrhau’r canlyniadau iechyd a gofal gorau ar gyfer Gogledd Iwerddon.
Ymunwch â 600 a mwy o Arweinwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn NICON24 ddydd Mercher 16 a dydd Iau 17 Hydref 2024 i drafod sut gall y sector iechyd a gofal cymdeithasol geisio sefydlogi, arloesi a thrawsnewid ar gyfer y dyfodol ar adeg pan fo’n wynebu mwy o bwysau nag erioed o'r blaen.
Dros y ddau ddiwrnod, cewch gyfle i glywed gan arweinwyr systemau allweddol ac arbenigwyr gwadd, bod yn rhan o 40 a mwy o sesiynau cyfochrog ac ymylol, sgwrsio â 50 o arddangoswyr, a rhwydweithio ag ystod eang o gydweithwyr, defnyddwyr gwasanaeth a phartneriaid o’r diwydiant a’r trydydd sector.