Trydydd parti
,
-
,
La Mon Hotel, Belfast
Ymunwch â 600 a mwy o arweinwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghynhadledd ac Arddangosfa NICON25 i drafod sut gall y sector iechyd a gofal cymdeithasol geisio sefydlogi, arloesi a thrawsnewid ar gyfer y dyfodol.

Yn ystod y gynhadledd, byddwch yn cael cyfle i ymweld â dros 50 o stondinau arddangos ac i ddewis o dros 50 o sesiynau ar bynciau amrywiol sy’n ganolog i’r cynlluniau Ailosod a’r prosesau i roi’r holl newidiadau hyn ar waith. Mae’r rhain yn cynnwys:
- atal;
- gwreiddio iechyd cymunedol yn ein model gweithredu;
- croesawu perthynas newydd â chleifion a phartneriaid;
- cryfhau gofal sylfaenol ac arweinyddiaeth glinigol;
- mynd i'r afael â rhestrau aros;
- gwella ansawdd;
- gofal cymdeithasol;
- iechyd meddwl;
- cynllunio’r gweithlu;
- diogelwch cleifion a diwylliant;
- ffyrdd newydd o weithio (gan gynnwys cydweithio rhwng adrannau a gweithio gyda darparwyr cydweithredol newydd);
- cynhyrchiant;
- manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd digidol;
- galluogi arloesedd;
- a llawer mwy!
Diddordeb mewn mynychu?