Bydd y digwyddiad hwn yn ysgogi trafodaeth i roi ystyriaethau rhyw a rhywedd ar waith mewn ymchwil sy’n cael ei gynnal yng Nghymru.

Mae rhyw a rhywedd yn chwarae rhan sylfaenol mewn iechyd a salwch, gan ddylanwadu ar glefydau a’r symptomau, rheolaeth a deilliannau sydd ynghlwm.
Ar hyn o bryd, nid yw'r rhan fwyaf o ymchwil yng Nghymru yn ystyried gwahaniaethau o ran rhyw a rhywedd mewn iechyd a salwch, gan leihau cywirdeb gwyddonol, cynnal anghydraddoldebau iechyd, a chreu effeithiau economaidd negyddol sy’n effeithio ar unigolion ac ar y boblogaeth.
Bydd y digwyddiad hwn yn ysgogi trafodaeth i roi ystyriaethau rhyw a rhywedd ar waith mewn ymchwil sy’n cael ei gynnal yng Nghymru. Mae rhyw a rhywedd yn croestorri â nodweddion unigol eraill, a byddwn hefyd yn ystyried hil.