Bydd Innovate UK yn gweithio gyda'r Adran Gwyddoniaeth, Arloesedd a Thechnoleg (DSIT) mewn partneriaeth â Lilly i fuddsoddi cyfanswm o hyd at £85m o gyllid ar gyfer prosiectau arloesi.

Mae DSIT yn darparu hyd at £50m a Lilly yn darparu hyd at £35m. Mae hyn yn cynnwys o leiaf £10m i'w glustnodi ar gyfer gwasanaethau iechyd gweinyddiaethau datganoledig.
Nod y gystadleuaeth hon yw bod prosiectau'n datblygu llwybrau arloesol ar gyfer rheoli pwysau yn y gymuned ac mewn gofal sylfaenol.
Ymunwch â nhw ar-lein i gael cyfle i ofyn cwestiynau ac i gael rhagor o wybodaeth am ddarpar gynigion o Gymru ar gyfer y gystadleuaeth gyllido, a agorodd ar 8 Medi 2025.
Bydd y digwyddiad hwn yn rhoi trosolwg byr o'r gystadleuaeth yng nghyd-destun Cymru a llwyfan i ddarpar ymgeiswyr ofyn cwestiynau penodol am wneud cais yng Nghymru.