Ymunwch ar gyfer Sioe Deithiol Exploring MedTech Opportunities, cyfres o ddigwyddiadau dynamig sy’n arddangos y datblygiadau a’r cyfleoedd busnes diweddaraf yn yr Almaen, Awstria, a’r Swistir (rhanbarth DACH), marchnadoedd technoleg feddygol mwyaf dylanwadol Ewrop.

Gyda’i gilydd, mae’r Almaen, Awstria, a’r Swistir yn cyfrif am dros draean y farchnad technoleg feddygol yn Ewrop, sy’n cael ei hybu gan brif gwmnïau’r byd, seilwaith gofal iechyd datblygedig, a sylfaen diwydiannol cryf. I ddarparwyr technoleg feddygol blaengar o’r DU ac Iwerddon, mae rhanbarth DACH yn cynnig potensial eithriadol ar gyfer twf, cydweithredu, a mynediad i’r farchnad
Pam mynychu?
- Bydd yn gyfle i ddysgu am dueddiadau cyfredol y farchnad a’r amodau rheoleiddio
- Edrych ar strategaethau ar gyfer mynediad i’r farchnad ac i ehangu eich busnes
- Cysylltu ag arbenigwyr o glystyrau blaenllaw yn y diwydiant ac asiantaethau llywodraethau
- Darganfod camau ymarferol i sefydlu eich presenoldeb yn y rhanbarth
Mae’r digwyddiad yn cael ei gefnogi gan bedair o gymdeithasau Technoleg Feddygol mwyaf blaenllaw’r DU: ABHI, SEHTA, Medilink Midlands, a MediWales.