Dewch i Sioe Gofal Iechyd Digidol 2024 i ddysgu am sbarduno newid mewn ffordd onest a chyfannol.
Byddwch yn cydweithio â miloedd o weithwyr gofal iechyd proffesiynol dros ddeuddydd, drwy gael trafodaethau agored yn cwestiynu’r camau pragmatig i drawsnewid, rhaglenni technoleg llwyddiannus, a heriau go iawn ysgogi’r agenda digidol yn y maes gofal iechyd.
Dysgwch wersi ymarferol y gallwch eu defnyddio heddiw gan ehangu eich rhwydwaith gyda’n siaradwyr, arweinwyr a darpar bartneriaid amrywiol ac amlddisgyblaethol, wrth ymchwilio i’r cyd-destun gofal iechyd digidol.
Peidiwch â cholli’r cyfle hwn i rannu gwybodaeth â’ch cyfoedion yn y Sioe Gofal Iechyd Digidol. Gwnewch nodyn o'r dyddiadau ac ymuno â ni wrth i ni archwilio’r atebion arloesol yn y sector gofal iechyd ar hyn o bryd.
Mae hwn yn ddigwyddiad am ddim i unrhyw un sy’n gweithio yn y sector Iechyd a Gofal. Mae modd cofrestru nawr,yma.