Bydd digwyddiad nesaf y Rhaglen Traws Sector (sy’n cael ei rhedeg mewn partneriaeth rhwng Academi'r Gwyddorau Meddygol a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru) yn dod ag arloeswyr ac ymchwilwyr o amrywiaeth o yrfaoedd a meysydd at ei gilydd i drafod sut i fabwysiadu rhaglenni digidol yn effeithiol a sut i ddod â gofal yn nes at y cartref gan ddal ati i arloesi.

Gan ystyried y pwysau digynsail ar y GIG a gofal cymdeithasol, mae’n rhaid i ni ddefnyddio technolegau digidol i helpu pobl i reoli eu hiechyd eu hunain yn fwy effeithiol. Bydd technolegau digidol yn hanfodol i gynyddu capasiti a symud y cydbwysedd gofal o’r clinig i’r cartref neu’r gymuned.
Bydd y digwyddiad hwn yn codi ymwybyddiaeth o fanteision cydweithio ar draws sectorau a sut gall rhaglenni digidol fod yn adnoddau effeithiol, ac yn rhoi enghreifftiau o sut caiff gofal digidol ei ddefnyddio’n llwyddiannus yn y cartref. Ymunwch â ni i ddeall sut gall cyflwyno rhaglenni digidol ein helpu i ddod â gofal yn nes at y cartref i nifer o gleifion yng Nghymru.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys:
- Cyflwyniadau ar y Rhaglen Traws Sector a hybiau rhwydweithio gan Academi'r Gwyddorau Meddygol a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.
- Sgyrsiau sy’n ysbrydoli gan Reolwr Gyfarwyddwr Romilly Life Sciences – Yr Athro Peter Bannister a’r cwmni gofal iechyd digidol Healthy.io.
- Trafodaethau bwrdd a chyfleoedd i rwydweithio.
- Amser ychwanegol i rwydweithio â chyfranogwyr eraill er mwyn canfod meysydd sydd o ddiddordeb cyffredin ac archwilio cysylltiadau pellach a chyfleoedd posib i gydweithio.
Agenda:
Amser | Eitem | Siaradwr |
---|---|---|
1000 - 1010 | Croeso | Simon Denegri, Cyfarwyddwr Gweithredol, Academi’r Gwyddorau Meddygol
|
1010 - 1020 | Trosolwg ac amlinelliad o'r sesiwn | Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru |
1020 - 1100 | Cyflwyniadau Gwib | Pawb |
1100 - 1120 | Paned a Rhwydweithio | |
1120 - 1130 | Cyflwyniad i raglenni digidol a dod â gofal yn nes at y cartref | Hwylusir gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru |
1130 - 1150 | Cyflwyniad un – Gyrfa ym maes data, deallusrwydd artiffisial (AI) a dysgu peirianyddol, a manteision cydweithio ar draws sectorau | Yr Athro Peter Bannister, Rheolwr Gyfarwyddwr, Romilly Life Sciences |
1150 - 1210 | Cyflwyniad dau – Enghraifft o ofal digidol yn y cartref – Rheoli Clwyfau o Bell | Healthy.io |
1210 - 1230 | Trafodaeth holi ac ateb | Panel ar y cyd rhwng Peter Bannister a Healthy.io |
1230 - 1235 | Diolchiadau a chloi | Academi'r Gwyddorau Meddygol a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru |
1235 - 1330 | Rhwydweithio dros ginio ysgafn |
Hygyrchedd a gofal plant
Rydym wedi cynllunio i geisio gwneud y digwyddiad hwn yn un mor hygyrch â phosib. Bydd hyd at £80 y plentyn y diwrnod ar gael ar gyfer gofal plant yn ystod y digwyddiad, lle bo angen gofal ychwanegol uwch na’r ddarpariaeth arferol.
Bydd y rheini sy’n dod i'r digwyddiad yn gallu hawlio cymorth gofal plant drwy lenwi ffurflen a darparu'r derbynebau priodol i'r Academi.
Cysylltwch â ni yn cross-sectorscheme@acmedsci.ac.uk am ragor o fanylion.