,
-
,
Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, 3 Sgwâr y Cynulliad, Caerdydd, CF10 4PL

Mae Therapïau Uwch Cymru yn eich gwahodd i Symposiwm Cynnyrch Meddyginiaethol Therapiwtig Uwch. Glywed gan arweinwyr y sector, gan gynnwys uwch glinigwyr, cleifion, y diwydiant a Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, a fydd yn rhoi trosolwg o’r dirwedd sy’n datblygu, a sut gallwn ni helpu i lunio cynllun cyflawni ar gyfer Cymru.

DNA Strand

Cyflwyno’r bennod newydd hon o ofal iechyd i GIG Cymru.

Mae therapïau uwch bellach yn cael eu gwireddu, gyda chyfanswm o 25 ATMP yn cael caniatâd ar gyfer y farchnad yn Ewrop.  Disgwylir y bydd 15 cynnyrch arall yn cael eu hawdurdodi ar gyfer y farchnad ledled Ewrop ac UDA yn 2023, a disgwylir y daw cymeradwyaeth ar gyfer y DU i ddilyn.  Wrth i’r therapïau newydd hyn gael caniatâd i farchnata - yn dilyn gwerthusiad ac argymhelliad gan NICE - byddant yn creu cyfleoedd a allai newid bywydau cleifion yng Nghymru. 

Bydd y digwyddiad hwn dan gadeiryddiaeth Suzanne Rankin, Uwch Swyddog Cyfrifol Rhaglen Therapïau Uwch Cymru, a bydd yn darparu’r canlynol:

  • Trosolwg o’r sector, sut mae’n datblygu, a’r cynnyrch sy’n dod i’r farchnad
  • Uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer Meddygaeth Fanwl yng Nghymru
  • Gwybodaeth arbenigol gan glinigwyr am ddarparu’r therapïau hyn
  • Cydweithio rhwng y diwydiant a’r GIG
  • Safbwynt cleifion am y therapïau trawsnewidiol hyn
  • Gweithredu er mwyn gallu cyflawni yng Nghymru, gan gynnwys y seilwaith a’r gweithlu gofynnol

Ar gyfer pwy mae’r digwyddiad?

Mae’r digwyddiad hwn ar gyfer uwch glinigwyr, cynllunwyr y GIG, rheolwyr gweithredol, prif fferyllwyr, a phawb sy’n ymwneud â therapïau uwch ac yn eu darparu yng Nghymru, neu sydd â diddordeb mewn gwneud hynny.

Caiff y digwyddiad hwn ei gynnal mewn partneriaeth â Therapïau Datblygedig Cymru a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn mynychu?
Cofrestrwch eich lle heddiw!