Ydych chi’n chwilio am ddatrysiadau i heriau wrth ddarparu gwasanaethau strôc? Oes gennych chi ddiddordeb mewn darganfod a allai technoleg helpu? Peidiwch â cholli’r cyfle i archwilio, trafod a chysylltu â thimau strôc a chyflenwyr technoleg yn y Symposiwm Technoleg Strôc cenedlaethol cyntaf.

Bydd y digwyddiad hwn yn dwyn ynghyd gweithwyr proffesiynol clinigol a thechnolegol i edrych ar ffyrdd o fynd i’r afael â rhwystrau cyffredin wrth ddarparu gofal strôc ac yn ystyried offer digidol arloesol a allai wneud gwahaniaeth. Mae cyllid ar gael i gefnogi prosiectau bach i wella, a gallwch ddarganfod sut i wneud cais amdano trwy fynychu’r Symposiwm.
Bydd y digwyddiad yn canolbwyntio ar yr hyn y gellir ei wneud i wella:
- Casglu a rheoli data
- Monitro o bell
- Adsefydlu ac Ymlyniad Meddygol
- Llif ac effeithlonrwydd cleifion
- Addysg a chefnogaeth cleifion
- Arloesi ac integreiddio technoleg
Bydd mynychwyr yn cael cyfle i rannu eu heriau a’u profiadau, dysgu am ymarferion gorau o ran gofal strôc o Gymru a thu hwnt, ac ymgysylltu a chydweithio â gweithwyr proffesiynol sydd wedi ymrwymo i ddatblygu’r maes.
Mae GIG Cymru, Llywodraeth Cymru, Rhwydwaith Gweithredu Strôc, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, MediWales ac ARCH yn cefnogi’r Symposiwm Technoleg Strôc.