,
-
,
The MAC, Belfast

Wedi’i threfnu gan Gynghrair Arloesi ac Ymchwil Iechyd Gogledd Iwerddon (HIRANI), mae’r Uwchgynhadledd Arloesedd a Thechnoleg Feddygol (MITS) yn gynhadledd undydd sy’n cael ei chynnal yn Belfast ar 19 Ebrill.

A hand holding a lightbulb

Bydd MITS yn gynhadledd sy’n canolbwyntio ar dechnoleg feddygol ac yn archwilio dau faes;

  • ecosystemau digidol i integreiddio diagnosteg a therapiwteg.
  • cynllun cymunedol sy'n canolbwyntio ar bobl i gyflymu arloesedd a mabwysiadu technoleg iechyd.

Gyda dros 40 o siaradwyr o’r diwydiant ar lefel fyd-eang a brodorol, y byd academaidd, iechyd ynghyd â 300 o gynadleddwyr, bydd y gynhadledd yn gyfle gwych i ddysgu, i gydweithio ac i rannu profiadau. Bydd cyfle i gynadleddwyr gymryd rhan hefyd mewn sesiynau panel amlddisgyblaethol i archwilio heriau a rhwystrau i fasnacheiddio.

Mae’r partneriaid yn cynnwys Innovate UK, AWS, Big MotiveDiaceutics, KPMG, Queen’s University Belfast a Phrifysgol Ulster. Prif Swyddog Fferyllol Adran Iechyd Gogledd Iwerddon, Cathy Harrison, fydd yn rhoi’r prif anerchiad. 

Oes gennych chi ddiddordeb mewn mynychu?
Cofrestrwch eich lle heddiw!