,
-
,
Gwesty Towers, Abertawe

Ymunwch â phobl o'r un anian ac arbenigwyr sy’n cael eu cydnabod yn rhyngwladol i ddatblygu atebion arloesol i heriau iechyd a gofal cymdeithasol, a dychwelyd i'ch rôl gyda mewnwelediadau, sgiliau ac atebion darbodus newydd i'w rhoi ar waith...

Solutions Graphic

Ydych chi’n gweithio ym maes iechyd, gofal cymdeithasol neu’r trydydd sector ac mae gennych chi syniad blaengar ar gyfer newid?

Oes gennych chi heriau sydd angen atebion arloesol?

Oes gennych chi’r uchelgais i sbarduno trawsnewid ym maes iechyd a gofal cymdeithasol?

Bydd Wythnos Dysgu Dwys Arloesi Comisiwn Bevan yn gyfle i chi archwilio hyn, a mwy!

Dros bedwar diwrnod, byddwn yn cynnig rhaglen amrywiol a rhyngweithiol iawn, gan fanteisio ar arbenigedd cefnogi dros 350 o Esiamplwyr Bevan. Bydd cymysgedd ddeinamig o gyflwyniadau, astudiaethau achos, paneli trafod, sesiynau trafod grŵp, a hyfforddiant wedi’i deilwra.

Ymunwch â phobl o'r un anian ac arbenigwyr sy’n cael eu cydnabod yn rhyngwladol i ddatblygu atebion arloesol i heriau iechyd a gofal cymdeithasol, a dychwelyd i'ch rôl gyda mewnwelediadau, sgiliau ac atebion darbodus newydd i'w rhoi ar waith.

Mae 30 o leoedd sy’n cael eu hariannu’n llawn ar gael i weithwyr iechyd, gofal cymdeithasol a’r trydydd sector (gan gynnwys llety), ac mae pawb sy’n bresennol yn cael achrediad DPP.

Manteisiwch ar y cyfle unigryw hwn i weithio gyda ni i ddod o hyd i’r atebion arloesol a chynaliadwy sydd eu hangen arnom ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn y dyfodol. Mae’r ceisiadau’n cau ar 8 Hydref.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn bresennol?
Cofrestrwch eich lle heddiw!