Trydydd parti
,
-
,
Ar-lein

Dysgwch sut mae sefydliadau'r GIG yn trawsnewid arferion caffael yn rym er lles drwy leihau allyriadau, cefnogi busnesau bach a chanolig, creu cyflogaeth leol a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd ar hyd y ffordd.

A woman looking at a laptop

Sut gall arferion caffael bweru pobl a'r blaned?

Ymunwch am sesiwn ysbrydoledig ar sut mae arferion caffael strategol yn sbarduno dwy genhadaeth y GIG: cyflawni sero net a darparu gwerth cymdeithasol.

Bydd y weminar hon yn edrych ar sut gall pob penderfyniad prynu, o gontractau lleol i gadwyni cyflenwi cenedlaethol, ddod yn sbardun ar gyfer gweithredu ar yr hinsawdd, llesiant cymunedol a thwf cynaliadwy.

Drwy astudiaethau achos o'r byd go iawn a gwybodaeth arbenigol, dyma beth fyddwch chi’n ei ddysgu:

  • Sut mae ymgorffori egwyddorion gwerth cymdeithasol a sero net ymhob cam o’r broses gaffael
  • Ffyrdd ymarferol o fesur a gwerthuso canlyniadau pwysig
  • Sut gall timau caffael fynd ati i leihau carbon, hyrwyddo cynaliadwyedd a chyd-fynd â thargedau sero net y GIG

 

Diddordeb mewn mynychu?