Mae Cymru yn gartref i ecosystem arloesi ddeinamig sy’n trawsnewid ein sefyllfa o ran iechyd, llesiant a’r economi.

Yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, rydyn ni’n falch o fod yn cefnogi’r newid hwn yn y system.

Mae ein timau’n gweithio’n agos gyda chydweithwyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn deall ac adnabod yn well yr heriau maen nhw’n eu hwynebu, ac, yn eu tro, cefnogi busnesau a diwydiant i gyflymu arloesedd sy’n diwallu’r heriau hynny.