Mae Cymru yn lleoliad apelgar ar gyfer arloesi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ac mae’n gartref i ecosystem arloesi ddeinamig sy’n trawsnewid ein tirlun iechyd, lles ac economaidd. Yn hyn i gyd, rydyn ni’n gysylltwyr, yn hwyluswyr ac yn ysgogwyr, sy’n cynnig cymorth arloesi hanfodol i ddiwydiant, sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol a sefydliadau academaidd.

Sut beth yw hynny yn ymarferol?  

Rydyn ni’n helpu i drawsnewid lles iechyd ac economaidd Cymru drwy: 

  • Cyflymu'r gwaith o ddatblygu a mabwysiadu arloesedd sy'n mynd i'r afael â'n hanghenion iechyd a gofal cymdeithasol mwyaf dybryd yng Nghymru.

  • Gweithio mewn partneriaeth â diwydiant i hybu datblygiad economaidd yn y sector gwyddorau bywyd yng Nghymru, sydd yn ei dro, yn sbarduno twf busnes ac yn creu swyddi.

Os ydych yn fusnes bach, yn gwmni mawr rhyngwladol neu’n ddarparwr iechyd a gofal cymdeithasol, gallwn eich helpu i ddatblygu eich arloesedd i wneud gwahaniaeth lle mae’n cael yr effaith fwyaf.