Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn canslo cynhadledd Iechyd Yfory 2020

Mae cynhadledd Iechyd Yfory 2020, a oedd i fod i gael ei chynnal yn Venue Cymru, Llandudno, ddydd Mercher, 25 a dydd Iau, 26 Mawrth wedi cael ei chanslo.



Gwnaed y penderfyniad gan fwrdd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru mewn ymateb i'r sefyllfa sy'n datblygu gyda’r coronafeirws ac, yn arbennig, i gefnogi'r GIG yng Nghymru a cydweithwyr ym maes gofal cymdeithasol a'r diwydiant sy'n gweithio i'w ffrwyno ar hyn o bryd.



"Rydym yn ddiolchgar i'r rhai sy'n ein gwasanaethu drwy ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol," meddai'r Cadeirydd, yr Athro Syr Mansel Aylward CB. "Gyda'r fath ymdrech ar y cyd gan GIG Cymru i ymateb i’r coronafeirws, doedden ni ddim am i'r gynhadledd dynnu sylw oddi ar y gweithgareddau hanfodol hyn."



Mae cynhadledd Iechyd Yfory yn rhan allweddol o waith Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru i ddod â gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol, y diwydiant a chydweithwyr yn academia at ei gilydd i sbarduno newid trawsnewidiol ym maes iechyd i wella'r gwasanaethau ar gyfer pobl Cymru.



"Rydym eisoes wedi cael budd o gydberthnasau boddhaol a chyfraniadau hynod werthfawr wrth gynllunio'r gynhadledd," meddai Syr Mansel. "Rydym wedi ymrwymo i feithrin a chyfuno'r cydberthnasau strategol hyn wrth i ni weithio ar y cyd i wella iechyd pobl Cymru."



Bydd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn cysylltu â chynrychiolwyr a chyfranogwyr drwy e-bost i'w hysbysu am y diddymiad. Fodd bynnag, os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch e-bost i events@lshubwales.com neu ffoniwch (029) 2046 7030.