Mae Cymru yn lleoliad delfrydol ar gyfer datblygu a rhoi arloesedd gwyddorau bywyd ar waith ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae ein poblogaeth o dair miliwn yn golygu y gallwn ni weithredu mewn ffordd ystwyth, ac mae’n ein galluogi i ddangos canlyniadau’n gyflym, wrth gymharu â’r hyn sy’n arferol yn y diwydiant.
Ac mae ein diwylliant blaengar o gefnogi arloesedd – drwy sefydliadau academaidd hynod ymrwymedig, cyngor, seilwaith a chysylltiadau, a chyllid – hefyd yn gwneud Cymru yn lleoliad deniadol ar gyfer sefydliadau gwyddorau bywyd.
Nod Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yw manteisio i’r eithaf ar y rhinweddau cyfun hyn. Rydym yn helpu i ddatblygu a mabwysiadu arloesedd yn y gwyddorau bywyd sy’n canolbwyntio ar anghenion ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, er lles a ffyniant pobl Cymru.
Drwy drafod yn agored â darparwyr rheng flaen rydym yn cael cipolwg ar heriau a blaenoriaethau’r sector. Boed yn fenter fach, yn gorfforaeth fyd-eang, neu’n ddarparwr gofal iechyd, mae ein gwahanol wasanaethau cymorth yn barod i helpu.