Arweinydd Prosiect
Mae Jack yn Arweinydd Prosiect yn y tîm Digidol a Deallusrwydd Artiffisial, gan weithio gyda phartneriaid ym meysydd diwydiant, y byd academaidd, iechyd a gofal cymdeithasol i gefnogi’r gwaith o fabwysiadu technoleg ddigidol arloesol newydd. Mae ei rôl yn cynnwys ymgysylltu â rhanddeiliaid, rheoli partneriaethau a sganio’r gorwel i ddeall anghenion y sector, yn ogystal â rheoli prosiectau i gefnogi atebion arloesol.
Mae gan Jack flynyddoedd lawer o brofiad ar draws y diwydiant ym maes iechyd, ffitrwydd ac iechyd galwedigaethol, gan sbarduno’r defnydd o gynnyrch technoleg iechyd i wella’r canlyniadau i gleifion. Mae wedi gweithio’n agos gyda chlinigwyr y GIG i ddatblygu ac arwain gwerthusiadau cynnyrch ar gyfer gwahanol garfannau cleifion, gan gynnwys iechyd meddwl, clefyd Parkinson, eiddilwch, ac adsefydlu corfforol. Mae ganddo BSc ac MSc mewn Ffisioleg Chwaraeon ac Ymarfer Corff.