Prif rôl Mia yw cynorthwyo rheolwyr y prosiect ac aelodau’r tîm i gynllunio a chydlynu prosiectau. Mae Mia yn aml yn mynd i gyfarfodydd prosiect ochr yn ochr â rheolwyr prosiectau i gofnodi a chynhyrchu cofnodion ar gyfer y cyfarfodydd hyn. Cyn bo hir bydd Mia yn cynorthwyo Prosiect Trawsnewid Gwasanaethau Gofal Llygaid yng Nghymru drwy gasglu data PREM a’i fwydo i gronfa ddata mae hi wedi ei chreu. Mae Mia hefyd yn helpu’r Swyddog Gweinyddol gyda hawliadau treuliau a thaflenni amser.

Dechreuodd Mia yn y swydd hon ym mis Rhagfyr 2019 fel lleoliad profiad gwaith. Ar ddechrau Chwefror 2020, cafodd Mia gontract 3 mis yn y rôl hon, sy’n debygol o gael ei ymestyn tan fis Medi pan fydd hi’n dechrau astudio ym Mhrifysgol Caerdydd am Radd Anrhydedd BSc mewn Ymarfer Adran Weithredu.