Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Mae Rhaglen Llawdriniaeth â Chymorth Roboteg Cymru Gyfan wedi cyrraedd carreg filltir arwyddocaol, gan gwblhau dros 500 o driniaethau llawfeddygol â chymorth roboteg. 

A surgeon using the Versius robotic surgery system

Cymru yw’r wlad gyntaf yn y byd i lansio rhaglen roboteg lawfeddygol genedlaethol mewn partneriaeth â’r diwydiant, gan drawsnewid gofal cleifion ac ailddiffinio arloesedd ym maes gofal iechyd ar raddfa genedlaethol.

Sbarduno arloesedd ledled Cymru

Cafodd y fenter hon ei lansio yn 2022 ac mae’n gydweithrediad rhwng GIG Cymru, CMR Surgical, a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Mae’r rhaglen yn dangos pŵer partneriaethau i gyflymu arloesedd a sicrhau effaith ar raddfa fawr.

Mae’r dechnoleg wedi cael ei rhoi ar waith ar draws tri Bwrdd Iechyd hyd yma:

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (Ysbyty Gwynedd)
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (Ysbyty Athrofaol Cymru)
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (Ysbyty Brenhinol Morgannwg) 

Hyd yma, mae 93 o weithwyr gofal iechyd proffesiynol o 14 tîm llawfeddygol wedi cwblhau hyfforddiant arbenigol, gan gyflawni dros 821 awr o lawdriniaeth â chymorth roboteg. Mae'r arbenigedd hwn yn ei gwneud hi’n bosib darparu llawfeddygaeth llai ymwthiol ar draws meysydd, gan gynnwys llawfeddygaeth y colon a'r rhefr, gynaecoleg, a rhan uchaf y llwybr gastroberfeddol.

Gwella Gofal Canser a Chanlyniadau Llawfeddygol

Mae effaith y rhaglen yn arbennig o arwyddocaol o ran datblygu gofal canser. Drwy ddarparu mwy o fanylder a chysondeb, mae’r dechnoleg â chymorth roboteg yn cefnogi llawdriniaethau arferol a chymhleth. Cafodd y 500fed llawdriniaeth, sef echdoriad blaen ar gyfer canser y rectwm, ei chynnal gan Jared Torkington, Llawfeddyg Ymgynghorol y Colon a'r Rhefr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

Dywedodd Jared, Clinigydd Arweiniol y Rhaglen Cymru Gyfan:

“Mae cyrraedd y garreg filltir hon yn adlewyrchu ymdrech ac uchelgais pawb. Mae’r rhaglen genedlaethol hon yn gwella canlyniadau cleifion ac yn datblygu ymarfer llawfeddygol ledled Cymru. Mae hefyd yn gyfle i ddechrau sgyrsiau pwysig am ganfod a sgrinio canser yn gynnar, gan helpu i drawsnewid agweddau ac ymddygiad y cyhoedd. Mae’r cynnydd rydyn ni wedi’i wneud yn dyst i ymroddiad ein timau a’r ysbryd cydweithredol sydd wrth wraidd y fenter hon.”

Cynnydd drwy Gydweithredu

Mae llwyddiant y rhaglen yn seiliedig ar bartneriaethau cryf. Gan weithio gyda CMR Surgical, mae GIG Cymru wedi defnyddio systemau roboteg uwch, wedi darparu hyfforddiant wedi’i deilwra, ac wedi integreiddio cofrestrfa glinigol i wella gofal cleifion a safoni arferion ar draws safleoedd.

Dywedodd Mark Slack, Cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Meddygol CMR Surgical:  

“Mae’n galonogol gweld y rhaglen yn cyrraedd y garreg filltir hon ac yn sicrhau newid ystyrlon i gleifion yng Nghymru. Mae’r dull cydweithredol a’r ffocws ar ehangu mynediad at lawdriniaethau sy’n ymyrryd cyn lleied â phosib yn gosod esiampl yn fyd-eang. Rydyn ni’n falch o gefnogi’r fenter hon ac rydyn ni’n edrych ymlaen at y cynnydd parhaus y bydd yn ei wneud ym maes gofal iechyd yng Nghymru.”

Yn ôl Cari-Anne Quinn, Prif Weithredwr Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru: 

“Mae’r garreg filltir hon yn dangos pŵer cydweithredu i ddarparu arloesedd sy’n newid bywydau ar raddfa fawr. Drwy gydweithio, mae GIG Cymru, y diwydiant a phartneriaid wedi agor y drws i ofal llawfeddygol trawsnewidiol i gleifion ledled Cymru. Rydyn ni’n falch iawn o weld yr effaith mae’r rhaglen hon yn ei chael ac rydyn ni’n dal wedi ymrwymo i gefnogi ei llwyddiant parhaus.”

Edrych i’r Dyfodol

Mae Rhaglen Llawdriniaeth â Chymorth Roboteg Cymru Gyfan yn gwella canlyniadau llawfeddygol, yn ogystal â chreu glasbrint ar gyfer arloesedd cenedlaethol. Drwy barhau i flaenoriaethu cydweithredu, mae Cymru’n arwain y ffordd o ran mabwysiadu technolegau manwl i wella gofal iechyd i bawb.

I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen hon, ewch i’n tudalen prosiect Rhaglen Roboteg Cymru Gyfan.