Trydydd parti

Mae gan sector Technoleg Iechyd y DU y potensial i greu 50,000 o swyddi medrus newydd a dyblu ei £13bn o gyfraniad economaidd , yn ôl adroddiad newydd gan Gymdeithas Diwydiannau Technoleg Iechyd Prydain (ABHI) a Choleg Imperial Llundain.

A finger pointing at a bar graph

Gellir datgloi’r twf uchelgeisiol hwn drwy fesurau polisi wedi’u targedu a chymorth strategol. Lansiwyd yr adroddiad yr wythnos hon yng Nghanolfan Perfformiad Economaidd Sectorol Coleg Imperial, cafodd ei gomisiynu gan Sefydliad Gatsby'r Arglwydd Sainsbury ac mae’n pwysleisio rôl hollbwysig Technoleg Iechyd o ran sbarduno twf economaidd a gwella effeithlonrwydd y GIG.

Mae’r ddogfen yn amlinellu argymhellion polisi beiddgar, gan gynnwys cymhellion treth, diwygiadau rheoleiddiol, a chydweithio dyfnach gyda’r GIG i gyflymu’r broses o fabwysiadu technolegau arloesol ar draws dyfeisiau meddygol, diagnosteg ac iechyd digidol. Mae’n cynnig polisïau penodol sydd â manteision yn y tymor byr, y tymor canolig a’r tymor hir ac a allai, os cânt eu cefnogi’n llawn, arwain at fwy o effeithlonrwydd ac arloesedd wrth ddarparu gofal iechyd y GIG, gan gryfhau safle’r DU fel arweinydd byd-eang o ran arloesi ym maes Technoleg Iechyd.

Gan ragweld twf sylweddol yn y sector, mae’r adroddiad yn rhagamcanu cynnydd o 50% mewn gwariant ymchwil a datblygu a chreu 50,000 o swyddi medrus newydd dros y pum mlynedd nesaf, gyda’r potensial i ddyblu Gwerth Ychwanegol Gros (GVA) y sector o fewn y degawd nesaf.

Yn ei ragair, dywedodd yr Athro Arglwydd Darzi o Denham: 

Mae’r Ymchwiliad Annibynnol i’r GIG hefyd wedi datgelu’r cyfleoedd rhyfeddol a ddaw yn sgil adfywio’r GIG. Bydd y diwydiant Technoleg Iechyd yn ganolog i wireddu’r potensial hwn. Mae’r strategaeth yn yr adroddiad hwn yn darparu llwybr pragmataidd a chyraeddadwy i harneisio gwerth y sector Technoleg Iechyd. Yn unigol, bydd y polisïau hyn yn sbarduno arloesedd; gyda’i gilydd, byddant yn creu sector Technoleg Iechyd a fydd yn rhoi anadl einioes i’r GIG wrth iddo gael ei adfywio, gan sicrhau iechyd, cyfoeth a thwf am genedlaethau i ddod.

Mae’r adroddiad hefyd yn pwysleisio potensial y sector i wella darpariaeth gofal iechyd yn ogystal â chyfrannu at dargedau Sero Net y DU drwy arloesi a gweithgynhyrchu cynaliadwy. Drwy feithrin partneriaethau cyhoeddus-preifat ac ehangu rhaglenni allforio byd-eang, gall y DU gadarnhau ei safle fel arweinydd yn y farchnad Technoleg Iechyd yn rhyngwladol.

Mae'r adroddiad ar gael yma.