Mae prosiect partneriaeth rhwng Gwylan UK a Chanolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC) Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, â chefnogaeth Cyflymu, wedi creu offeryn newydd arloesol i helpu plant i reoli eu hiechyd corfforol a’u hiechyd meddwl.

Gwylan UK Sleeping Lion's stress and anxiety management system for classrooms

 Mae’r bartneriaeth, sy’n cael ei harddangos mewn ffilm newydd gan y Rhaglen Cyflymu, wedi addasu hen gêm, Sleeping Lions, a’i throi’n dechnoleg werthfawr sy’n caniatáu i ddisgyblion ysgol reoli eu hemosiynau ac ymdawelu pan fyddant yn teimlo’n flin, ar bigau, neu’n methu â rheoli eu hemosiynau yn yr ystafell ddosbarth.



Yr hyn sy’n digwydd mewn ysgolion fel arfer yw bod plant sy’n methu â rheoli eu hemosiynau yn cael eu tynnu o’r ystafell ddosbarth er mwyn cael amser i ymdawelu. Ond yn aml iawn mae hyn yn achosi anawsterau i’r ysgol, ac mae’n effaith ar gyrhaeddiad addysgol y plentyn.

Mae Gwylan UK, cwmni o ymgynghorwyr addysgol sydd wedi’i leoli yn Sir Benfro, yn credu bod technoleg yn cynnig ffordd well o helpu plant ifanc i ddysgu sut i reoli eu hemosiynau yn well. Ar hyn o bryd mae’r ymgynghorwyr yn datblygu meddalwedd y gellir ei defnyddio mewn ystafell ddosbarth drwy ap ar ddyfais symudol, a fydd yn cael ei gysylltu â chlustffonau Bluetooth a monitor ar arddwrn i fesur pa mor gyflym mae calon plentyn yn curo. 

Gostwng cyfradd curiad y galon yw un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o ymdawelu, a phrofwyd y bydd gostwng cyflymder anadlu unigolyn hefyd yn gostwng cyfradd curiad ei galon. Os caiff ei fabwysiadu mewn ysgolion, gall y dechneg hon wella llesiant plentyn, ac arwain at golli llai o addysg, ac mae’n galluogi athrawon i gefnogi mwy o’u disgyblion yn emosiynol.

Mae ap Gwylan yn tywys plentyn sydd ar bigau drwy gyfres o gemau, ymarferion a thechnegau ymgolli sydd wedi’u cynllunio er mwyn arafu cyflymder anadlu, gan ei alluogi i ymdawelu heb orfod gadael y dosbarth.

Mae Cyflymu yn cael ei arwain gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.  Yn hytrach na darparu cyllid neu grantiau, mae’r rhaglen hon yn cynnig cyfle i fusnesau bach a chanolig a Mentrau yng Nghymru fanteisio ar arbenigedd academaidd, a’r cyfleusterau diweddaraf sydd eu hangen ar arloeswyr ac entrepreneuriaid er mwyn gwireddu eu syniadau.

Ar gyfer y prosiect hwn, mae Cyflymu wedi rhoi arbenigedd academaidd i Gwylan UK, ynghyd â’r cyfleusterau diweddaraf yn ATiC, yng Nghampws SA1 Glannau Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

John Likeman, Cyfarwyddwr Gwylan UK:

“Mae’r rhaglen Cyflymu wedi rhoi cefnogaeth hollbwysig i ni. Maen nhw wedi dod o hyd i ATiC ac wedi gallu rhoi tîm o bobl i ni a oedd yn gallu deall beth roedden ni ei eisiau a’n helpu ni i ganfod ffyrdd o gyflawni hynny. Heb y rhaglen Cyflymu fyddai yna ddim cynnyrch - mae mor syml â hynny. Byddai’n dal yn syniad.”

Fe wnaeth arbenigwyr o ATiC helpu â’r gwaith o werthuso prototeip eu cynnyrch drwy gyflwyno cynllun peilot mewn dwy ysgol yng Nghymru –  Ysgol Gymraeg Brynsierfel yn Llanelli, ac Ysgol y Moelwyn ym Mlaenau Ffestiniog.

Yn ystod y cydweithrediad bu tîm ATiC yn cynnal cyfres o astudiaethau yn y ddwy ysgol i werthuso gallu’r cynnyrch i hybu ymwybyddiaeth ofalgar, rheoli cyflymder anadlu, ac arafu cyflymder curiad calon er mwyn helpu disgyblion i ymlacio mwy.

Roedd ymchwil ATiC yn cynnwys ymchwil ymddygiadol sy’n canolbwyntio ar ddefnyddwyr yn yr ystafell ddosbarth, a oedd yn galluogi’r bartneriaeth i ddeall yn well sut roedd y disgyblion yn defnyddio’r ap, a’i effaith ar eu hymddygiad ac ar ddynameg yr ystafell ddosbarth.

Roedd y data a gasglwyd yn darparu tystiolaeth ar gyfer effeithlonrwydd y cynnyrch, yn ogystal ag argymhellion er mwyn gwella’r fersiwn terfynol cyn masnacheiddio i fod ar gael i ysgolion a chwsmeriaid academaidd.

Tim Stokes, Cymrawd Arloesi ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ac ATiC:

“Yn gyffredinol, ein nod yw cydweithio â mentrau a busnesau yn y sector iechyd a lles. Rydym yn gweithio gyda nhw ac yn ceisio datblygu ac optimeiddio eu cynnyrch, systemau a gwasanaethau, ac rydym yn gwneud hyn drwy ymchwil, deall, prototeipio a phrofi effeithlonrwydd eu cynnyrch.

Daeth ATiC â ffyrdd amrywiol o fesur eu profiad wrth ddefnyddio ap Sleeping Lions, felly roeddem yn gallu mesur pa mor gyflym roedd eu calonnau’n curo a pha mor gyflym roeddent yn anadlu ar wahân. Roeddem yn gallu defnyddio darn o feddalwedd Noldus FaceReader i ddeall eu hemosiynau a’u lefelau canolbwyntio wrth iddynt ei ddefnyddio. Roedd hyn o gymorth mawr i ni gan ei fod yn ein helpu i ddeall i ba gyfeiriadau y byddai angen i’r ap fynd.”

Mae datblygu Sleeping Lions a’i dechnoleg PulseBAND, sy’n cynnwys synwyryddion cardiofasgwlaidd a chlustffonau, eisoes yn darparu cyfleoedd gwaith ychwanegol i dîm datblygu meddalwedd Gwylan UK, y tîm caledwedd a gwneuthurwyr tecstiliau. Gallai gael ei ddatblygu hefyd i’w ddefnyddio ym meysydd chwaraeon elît, ac o bosibl ar gyfer cymwysiadau milwrol, diogelwch a meddygol.

Os bydd yn cael ei gyflwyno’n llwyddiannus, Sleeping Lions fydd y cynnyrch dwyieithog cyntaf o’i fath yn y farchnad, a byddai’n cael effaith gadarnhaol ar ddatblygiad yr iaith Gymraeg ac yn darparu cefnogaeth i bobl ifanc yn eu hiaith gyntaf, iaith eu cartref a’u lles.

Mae’r rhaglen Cyflymu wedi’i hymestyn yn awr tan fis Rhagfyr 2022. Os hoffech ddarganfod mwy ynglŷn â sut y gallai’r rhaglen gefnogi eich syniad da neu eich arloesiad chi, cysylltwch â ni heddiw drwy hello@lshubwales.com.