Rydym yn falch o gyhoeddi bod archebion nawr ar agor ar gyfer ein cynhadledd arloesedd iechyd, Iechyd Yfory 2020

Mercher 25 - Iau 26 Mawrth 2020

iPad and MRI scanner

Iechyd Yfory 2020

Bydd prif ddigwyddiad arloesedd iechyd Cymru ar 25 a 26 Mawrth yn Venue Cymru yn Llandudno.

Mae Iechyd Yfory 2020 wedi ei ddylunio’n uniongyrchol ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio yn iechyd a gofal cymdeithasol, diwydiant ac academia a bydd yn ffocysu ar sut gallwn weithio gyda’n gilydd i yrru weddnewid iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Cewch y cyfle i glywed gan arweinwyr meddwl a ffigyrau ysbrydoledig o ar draws y sector, a hefyd dysgu am y dulliau arloesol a thechnoleg sydd ar flaen y gad yn gwneud gwahaniaeth i systemau iechyd yng Nghymru.

Ymunwch gyda ni a dros 500 o gynadleddwyr tra byddwn yn sbarduno trafodaethau, hwyluso gweithio ar y cyd ar draws diwydiant ac iechyd, a chyflymu arloesedd.

Archebion

Cofrestrwch nawr ar gyfer eich tocyn cynadleddwr di-gost. Peidiwch ag oedi, mae llefydd yn gyfyngedig.

Gallwch archebu nawr drwy glicio yma: Archebu Cynhadledd

Arddangos

Os hoffech arddangos yn Iechyd Yfory 2020, cysylltwch â ni ar enquiries@tomorrowshealth.wales

Gallwch ddod o hyd i fwy am gyhoeddiadau'r gynhadledd, siaradwyr a’r rhaglen drwy ymweld â iechydyfory.cymru. Edrychwn ymlaen at eich gweld ym Mawrth 2020!