Mae’r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, wedi cyhoeddi y bydd canolfan ddiagnosteg a thriniaeth newydd yn cael ei datblygu ar gyfer rhanbarth y De-ddwyrain. Bydd yn cael ei lleoli yn Llantrisant, Rhondda Cynon Taf.
Bydd y cyfleuster newydd, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn datblygu gwaith rhanbarthol ymhellach rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Gwneir hyn i wella gofal a mynediad at wasanaethau drwy ddarparu gwasanaethau hygyrch, diogel ac arloesol i filoedd o gleifion bob blwyddyn.
Prynwyd y tri adeilad, a oedd gynt yn berchen i British Airways, ar safle yn agos at Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Mae hyn yn dangos ymrwymiad y byrddau iechyd a Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r heriau y mae’r gwasanaeth iechyd yn eu hwynebu ar hyn o bryd.
Bydd y byrddau iechyd a’u clinigwyr, ynghyd â’r cyhoedd, nawr yn dechrau gweithio ar gynllun i drawsnewid yr adeilad yn ganolfan ddiagnosteg a thriniaeth flaengar, er mwyn sicrhau ei bod yn cyflawni'r budd mwyaf posibl i gleifion. Bydd rhagor o fanylion am hyn yn cael eu cyhoeddi yn y misoedd nesaf.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan:
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu’r gwasanaethau iawn, yn y lle iawn, ar yr adeg iawn, i gleifion ledled Cymru. Roeddem yn glir yn ein Cynllun Adfer ar gyfer Gofal a Gynlluniwyd bod angen i ni weld rhagor o waith rhanbarthol ar draws y byrddau iechyd. Bydd hyn yn helpu i leihau rhestrau aros, blaenoriaethu gwasanaethau diagnosteg ac adeiladu model gwasanaeth mwy cynaliadwy yn y dyfodol. Bydd y ganolfan ddiagnosteg a thriniaeth newydd yn helpu i fodloni’r uchelgais hon drwy ddarparu triniaethau oddi ar safleoedd ysbytai. Felly, gallwn weld rhagor o bobl yn gynt, gwella canlyniadau, a sicrhau bod gan ein hysbytai y capasiti i helpu’r rhai hynny y mae angen gofal brys arnynt. Edrychaf ymlaen at weld sut bydd y cynlluniau ar gyfer y ganolfan hon yn datblygu yn ystod y misoedd nesaf.
Dywedodd Paul Mears, ar ran Prif Weithredwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r From a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan:
Drwy brynu’r safle hwn ar gyfer rhanbarth y de-ddwyrain, bydd byrddau iechyd yn cael cyfle i wella mynediad ein cymunedau at wasanaethau gofal iechyd hanfodol.
Rydym yn ddiolchgar i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn y lle cyntaf am adnabod buddion posibl y cyfleuster hwn ar gyfer partneriaid iechyd. Rydym hefyd yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am ei sicrhau ar ran y GIG a’i gleifion. Mae’r byrddau iechyd yn edrych ymlaen at weithio gyda’i gilydd a gyda’n partneriaid i ddatblygu’r prosiect cyffrous hwn."