Y mis hwn, rydym yn falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth â The Guardian ac healthawareness.co.uk fel rhan o ymgyrch genedlaethol ‘Cefnogi’r GIG’. Rydym yn ymuno â sefydliadau fel Cydffederasiwn y GIG, Rhwydwaith AHSN, NHS Digital, AstraZeneca a BT, i dynnu sylw at sut mae’r ecosystem arloesi’n gweithio yng Nghymru.
Mae ein Prif Weithredwr, Cari-Anne Quinn, wedi ysgrifennu erthygl bwysig yn egluro pam fod sefydliadau’n gwneud Cymru yn geffyl blaen o ran ei darpariaeth arloesi ym maes iechyd, gofal a lles, a sut gall hyn gefnogi ein GIG. Mae modd darllen yr erthygl yn llawn drwy Health Awareness [link to article] neu yn
Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Weithredwr Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:
“Gall newid yn y system iechyd a gofal cymdeithasol fod yn gymhleth. Mae’n bleser gennym gyfrannu ein safbwyntiau ar arloesedd ym maes gofal iechyd a sut y gall hyn gefnogi ein GIG.”
I ddarllen yr erthygl ddigidol yn llawn, ewch i: www.healthawareness.co.uk/supporting-the-nhs/supporting-the-advancement-of-health-and-social-care-innovation/