Trydydd parti

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cymorth i ddysgwyr proffesiynol yn y GIG, gofal cymdeithasol, a’r trydydd sector drwy ei rhaglen Academi Dysgu Dwys. Mae'r fenter hon yn darparu cyfleoedd ar gyfer addysg a datblygiad personol mewn meysydd polisi allweddol.
 

A person writing in a classroom

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cymorth i ddysgwyr proffesiynol yn y GIG, gofal cymdeithasol, a’r trydydd sector drwy ei rhaglen Academi Tegwch Iechyd, Iechyd Ataliol a Llesiant Academi Dysgu Dwys. Mae'r fenter hon yn darparu cyfleoedd ar gyfer addysg a datblygiad personol mewn meysydd polisi allweddol.

Fel rhan o'r fenter hon, mae ceisiadau am ysgoloriaethau bellach ar agor ar gyfer Ionawr 2025 yn Academi Tegwch Iechyd, Iechyd Ataliol a Llesiant Prifysgol Bangor. Mae'r ysgoloriaethau, gwerth hyd at £3,000, ar gael i fyfyrwyr sy'n dilyn rhaglenni Tystysgrif Ôl-radd, Diploma Ôl-radd, neu MSc Iechyd Ataliol, Iechyd y Boblogaeth ac Arweinyddiaeth, yn ogystal ag ar gyfer rhai modiwlau unigol.

Rhaid i ymgeiswyr sydd â diddordeb gyflwyno eu ceisiadau erbyn dydd Gwener, 29 Tachwedd 2024, a bydd canlyniadau yn cael eu cyhoeddi erbyn dydd Gwener, 13 Rhagfyr 2024.

Os hoffech drafod eich cais am ysgoloriaeth, cysylltwch ag ahepw@bangor.ac.uk.