Trydydd parti

Cafodd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eu gwobrwyo yng ngwobrau Cynaliadwyedd Cymru 2024 am lwyddo i wneud gwasanaethau'r GIG yn fwy ecogyfeillgar.

Awards cermemony

Cyflwynwyd gwobr Cynaliadwyedd mewn Nyrsio a Bydwreigiaeth y Prif Swyddog Nyrsio - sef ychwanegiad newydd i'r categorïau eleni - i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe am leihau'r defnydd o bapur yn ei wasanaeth nyrsio ardal a mynd yn ddi-bapur yn ei glinig clwyfau cymunedol.

Cyflwynodd y tîm yr ap Minuteful for Wound sy'n caniatáu i nyrsys ac arbenigwyr weld clwyfau o bell. Mae hynny'n galluogi'r tîm i ddigido cofnodion cleifion, asesiadau a chynlluniau gofal, gan arbed bron i 450,000 o ddalenni papur y flwyddyn.

Enillodd prosiect KidzMedz Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, wobr Cymru Lewyrchus am ei waith i leihau gwastraff meddyginiaethau hylif.
Gall materion fel blas ac oes silff fyrrach y meddyginiaethau hylif gyfrannu at lefel y gwastraff.

Creodd tîm Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro becynnau addysgol i addysgu plant a phobl ifanc sut i lyncu tabledi a chapsiwlau, gan fod y rhain yn feddyginiaethau mwy derbyniol eu blas na hylifau, ac mae eu hôl troed carbon yn is.

Mae wedi llwyddo i leihau nifer y meddyginiaethau hylif sy'n cael eu dosbarthu, wrth i rai cleifion newid i feddyginiaethau solet.

Dywedodd Prif Swyddog Nyrsio Cymru, Sue Tranka:

Mae'r ymroddiad a'r arloesedd sy'n cael eu dangos gan holl ymgeiswyr gwobrau Cynaliadwyedd Cymru yn wirioneddol ysbrydoledig.

Mae eich ymrwymiad i ymarfer gofal iechyd cynaliadwy yn haeddu canmoliaeth ac yn gosod esiampl nodedig a chlodwiw i'r gymuned gofal iechyd gyfan.

Diolch am eich cyfraniad rhagorol tuag at sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy i ofal iechyd yng Nghymru, a llongyfarchiadau i'r enillwyr.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Eluned Morgan:

Llongyfarchiadau i'r holl enillwyr yng ngwobrau Cynaliadwyedd Cymru eleni!

Mae eich ymdrechion yn allweddol ar gyfer creu system gofal iechyd fwy cynaliadwy a chadarn i genedlaethau'r dyfodol, ac er budd pawb yng Nghymru. Mae ehangder ac amrywiaeth y prosiectau arloesol a gafodd eu hanrhydeddu yn y gwobrau yn adlewyrchu'n glir y dalent sydd gennym yn ein gweithlu.

Mae'n wych eich bod yn cael y gydnabyddiaeth deilwng hon, a dylech chi i gyd deimlo’n falch iawn ohonoch chi'ch hunain.

Yr enillwyr eleni yw:

  • gwobr Cynaliadwyedd mewn Nyrsio a Bydwreigiaeth y Prif Swyddog Nyrsio: Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
  • gwobr Lledaeniad a Graddfa: Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
  • gwobr Hyrwyddwr Cynaliadwyedd: Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
  • gwobr Cymunedau Cydlynus Cymru: Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
  • gwobr Cymru Fwy Cyfartal: Ysbyty'r Tywysog Charles
  • gwobr Diwylliant ac Iaith Cymru: Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
  • gwobr Cymru Lewyrchus: Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
  • gwobr Cymru Gydnerth: Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
  • gwobr Cymru Iachach: Is-adran Gofal Sylfaenol, Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • gwobr Cymru sy'n Gyfrifol yn Fyd-eang: Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro