Mae’r Comisiwn Bevan mewn partneriaeth â Llais, a’r Sefydliad Gwella Gofal Iechyd (IHI) yn yr Unol Daleithiau, wedi lansio’r fenter ‘Rheolau Gwirion’ gyda’r nod o nodi a lleihau rhwystrau i ofal gwell ar draws gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Mae pobl, cymunedau a staff iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn cael eu hannog i rannu eu profiadau drwy arolwg. Nod yr arolwg yw nodi rhwystrau a phrosesau nad ydynt yn ychwanegu gwerth nac yn rhwystro gofal diogel ac effeithiol, y gellid eu newid neu eu dileu i wella gwasanaethau i bawb.
Mae Rheolau Gwirion yn adeiladu ar lwyddiant yr ymgyrch ‘Torri’r Rheolau am Ofal Gwell’ a lansiwyd gan yr arloeswr gwella gofal iechyd a Chomisiynydd Bevan, Yr Athro Don Berwick, mewn partneriaeth â’r Sefydliad Gwella Gofal Iechyd yn 2016. Ers hynny, mae’r ymgyrch wedi trawsnewid sut mae systemau gofal iechyd yn nodi ac yn mynd i'r afael â phrosesau sy'n rhwystredig i'r rhai sy'n cael mynediad at ofal, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio yn y system, gan wella canlyniadau, arbed costau ac amser, a lleihau gwastraff yn y pen draw.
Dywedodd Dr Helen Howson, Cyfarwyddwr y Comisiwn Bevan:
“Yn aml iawn, daw’r atebion gorau wrth y bobl sy’n profi gwasanaethau iechyd a gofal a’r rheini sy’n gweithio yn y system- y rhai sy'n darparu ac yn derbyn gofal.
Rydyn ni’n gwybod bod yna brosesau a rheolau a allai fod wedi gwneud synnwyr ar un adeg ond sydd bellach wedi dyddio, gan greu rhwystrau a rhwystredigaeth ddiangen. Drwy lansio’r fenter Rheolau Gwirion yng Nghymru, rydyn ni’n caniatáu i bawb helpu i nodi'r rhain.
Nid yw hyn yn ymwneud â dod o hyd i broblemau’n unig - mae'n ymwneud â chydweithio i greu atebion ymarferol sy'n gwella iechyd a gofal i bawb. Gan adeiladu ar y llwyddiant a welsom yn fyd-eang gyda'r dull hwn, credwn fod gan y fenter hon y potensial i drawsnewid sut rydyn ni’n darparu gofal yng Nghymru, a’i wneud yn fwy effeithlon, yn fwy ymatebol, ac yn canolbwyntio mwy ar y claf yn y pen draw.”
Dywedodd Alyson Thomas, Prif Weithredwr Llais:
“Mae hwn yn gyfle gwych i ni ymuno â Sefydliad Bevan i glywed eich ‘Rheolau Gwirion’. Mae ein rôl unigryw yn Llais yn golygu y gallwn glywed gan bobl ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, gan roi mynediad i ni at ystod ehangach o syniadau a phrofiadau, a chaniatáu i bobl sy’n cael mynediad at ofal a chymorth a staff i gael llais.”
Bydd canfyddiadau’r Rheolau Gwirion yn cael eu rhannu yn ystod chwarter cyntaf 2025 gyda phobl a chymunedau, byrddau iechyd, ymddiriedolaethau a sefydliadau gofal cymdeithasol ledled Cymru. Bydd y darlun cyfunol hwn yn helpu arweinwyr iechyd a gofal cymdeithasol a gwneuthurwyr polisi i ddeall sut i gael gwared ar rwystrau diangen, gan ysgogi newidiadau positif sy’n gwella gofal, canlyniadau a phrofiadau pobl, yn ogystal â boddhad staff.
Drwy gymryd rhan, gall staff iechyd a gofal cymdeithasol a phobl a chymunedau Cymru gyfrannu at welliannau ystyrlon o fewn iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Gyda’n gilydd, gallwn chwalu’r rhwystrau i ofal gwell.