Mae Creo Medical, cwmni datblygu dyfeisiau meddygol arloesol a leolir yng Nghas-gwent, wedi bod yn cydweithio â gwahanol elusennau a chwmnïau eraill i gyfrannu gwerth dros £130,000 o gyfarpar meddygol i helpu’r ymateb i’r argyfwng Covid-19 yn India. 

Donations of supplies that will support India's Covid-19 response

Trefnwyd i ddanfon 252 blwch o gyfarpar meddygol taer ei angen, yn cynnwys cyflenwadau hanfodol, i’r India mewn dyddiau’n unig. Danfonwyd y rhain i nifer o wahanol ardaloedd, lle mae taer angen difrifol sydd heb ei ateb, mewn ymateb i’r don Covid-19 ddinistriol bresennol – gan gynnwys i ysbytai maes a lleol ar draws y wlad. 

Sut y digwyddodd 

Yn wreiddiol, fe brynodd Creo Medical gannoedd o beiriannau anadlu a chrynodyddion ocsigen yn 2020 i’w rhoi i’r GIG i gefnogi ymateb cyntaf y DU i Covid-19. Fodd bynnag, pan ddechreuodd achosion o’r haint leihau ac ystyriwyd nad oedd eu hangen, penderfynwyd rhoi’r cyfarpar i Hope2Sleep, elusen cyflyrau cysgu yn Hull. 

Ar ôl dod i wybod am y sefyllfa argyfwng yn India, penderfynodd y ddau sefydliad roi’r cyflenwadau hanfodol hyn i’r ymdrech ddyngarol ryngwladol. Roedd yn cynnwys 122 peiriant anadlu a 95 crynodydd ocsigen, ynghyd â thiwbin, masgiau a hidlyddion. 

Cysylltodd Creo Medical a Hope2Sleep â BAPIO, sefydliad di-wneud-elw sy’n cael ei redeg gan feddygon India-Brydeinig a fu’n trefnu ystod o brosiectau codi arian, rhodd a chymorth. Mae hyn wedi cynnwys caffael cyfarpar meddygol allweddol, darparu brysbennu ac adrodd clinigol drwy wasanaethau tele-feddygol o bell, a danfon cyflenwadau bwyd hanfodol. Roedd Dr Ramesh Mehta OBE, sylfaenydd yr elusen, wedi gallu tywys a rhoi mwy o wybodaeth i’r ddau sefydliad gyda’u hymdrechion rhodd. 

Meddai Dr Ramesh Mehta OBE, Sylfaenydd a Llywydd BAPIO: 

“Mae BAPIO yn ddiolchgar i CREO Medical a Hope2Sleep am eu rhoddion hynod garedig o gyfarpar ar gyfer y trychineb Covid-19 yn India. Roedd eu tosturi a’u hawydd i helpu’n amlwg. Drwy waith tîm anhygoel, rydym wedi llwyddo i roi trefn ar broses gludo gymhleth mewn amser byr iawn. Bydd y peiriannau anadlu a’r crynodyddion ocsigen anymwthiol hyn yn achub llawer iawn o fywydau yn India.” 

Mae BAPIO wedi gweithio gyda Creo Medical a Hope2Sleep i drefnu logisteg y broses o ddanfon y cyflenwadau hyn i’r India mewn ychydig ddyddiau. Danfonwyd y cyflenwadau i faes awyr Heathrow gan Duthie Transport, cwmni logisteg o Gymru, cyn i’r cargo yna gael ei gludo i Mumbai gan gwmni Qatar Airways. Roedd y ddau gwmni wedi gwneud hyn yn ddi-dâl. Sefydliad Mukund Madhav sy’n trefnu’r broses logisteg yn India. 

Gallwch ddod o hyd i fwy am waith BAPIO gan wylio'r fideo hwn. Mae'r fideo yn un allanol sydd ar gael yn Saesneg yn unig. 

Meddai Kath Hope, Sylfaenydd a Phrif Weithredwr Hope2Sleep: 

“Er mai prif waith ein helusen yw codi ymwybyddiaeth o apnoea cysgu a helpu cleifion gyda phob math o anhwylderau anadlu wrth gysgu, sy’n defnyddio peiriannau anadlu anymwthiol a CPAP yn bennaf, roedd hwn yn brofiad unigryw hynod werth chweil. Mae wedi bod mor braf gweithio gyda Creo Medical a BAPIO ac rydym i gyd yn cyrchu at yr un nod: achub bywydau yn India.” 

Mae’r ymdrech yn adlewyrchu gwerthoedd craidd Creo Medical fel cwmni wedi’i sbarduno gan wella canlyniadau i gleifion a gwneud gwahaniaeth go iawn i rai sydd angen triniaeth feddygol arnynt. Ers ei sefydlu yn 2013 mae Creo Medical wedi gweithio i ddatblygu triniaethau canser cynnar arloesol drwy ddyfeisiau meddygol electro-lawdriniaeth. 

Meddai Richard Lawrence, Pennaeth Gweithredol Creo Medical yn Ewrop, y Dwyrain Canol ac Affrica:  

“Mae gan Creo Medical hanes cryf o ddatblygu technolegau sy’n caniatáu i glinigwyr wella canlyniadau i gleifion. Roedd y pandemig yn alwad i weithredu i gymaint o fusnesau yn y sector dyfeisiau meddygol ac rwy’n hynod falch ein bod wedi gallu defnyddio ein hadnoddau drwy gaffael peiriannau anadlu a chrynodyddion ocsigen sy’n gyfarpar hanfodol yn y driniaeth i rai a effeithiwyd waethaf gan Covid-19. Mae’n wych gweld gymaint o fusnesau’n dod at ei gilydd i roi’r cyfarpar hanfodol hwn yn nwylo clinigwyr, helpu i achub bywydau a chefnogi’r ymateb byd-eang i’r argyfwng hwn yn India.” 

Allwch chi helpu? 

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru’n falch iawn o weld busnesau Cymru’n cyfrannu at yr ymdrech ryngwladol i helpu gyda Covid-19 yn India. Rydym yma i gefnogi busnesau eraill a allai helpu. 

Yn dilyn ein galwad gyntaf i weithredu a danfon cymorth meddygol brys i India, mae’r ymdrechion i roi Creo Medical mewn cysylltiad â’r sefydliadau perthnasol wedi cyd-ddigwydd â’r cwmni’n derbyn ymateb da gan BAPIO. Mae’r alwad am gymorth yn flaenoriaeth uchel o hyd ac rydym yn awyddus i glywed gan unrhyw gwmnïau sydd â’r cyfarpar canlynol: 

Mae taer angen y presennol ar hyn o bryd: 

  • Silindrau ocsigen 10 litr gwag y gellir eu hail-lenwi 

  • Silindrau ocsigen 45 litr gwag y gellir eu hail-lenwi 

  • Peiriannau creu ocsigen in situ 

  • Remdesivir 

Os gall eich busnes gyflenwi unrhyw un o’r cyfarpar meddygol sydd taer ei angen, cysylltwch â helo@hwbgbcymru.com heddiw.