Trydydd parti

Mae platfform digidol newydd sy’n mesur gweithgarwch gwella ac sydd am ddim i holl fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd GIG Cymru wedi cael ei lansio.

The Hive logo

Adroddiadau hawdd eu defnyddio dim ond clic i ffwrdd  

Wedi'i reoli gan Gwelliant Cymrumae 'Hive' yn blatfform greddfol sy'n gartref i weithgarwch gwella sefydliad gyda’r cyfan o dan yr un to. Wedi'i gyd-gynhyrchu â thimau gwelliant, mae'n darparu adroddiadau a siartiau hawdd eu defnyddio trwy glicio botwm. Dengys yr holl brosiectau gwelliant byw o fewn sefydliad defnyddiwr.

Dywedodd Dominque Bird, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Dros Dro Ansawdd, Diogelwch a Gwelliant:

"Rydym yn gyffrous i lansio Hive ar ôl treulio misoedd lawer yn adeiladu'r platfform a'i dreialu gyda grŵp dethol o ddefnyddwyr a roddodd adborth ar bob cam. Sonia’r cydweithwyr am ba mor hawdd yw’r adroddiadau i’w defnyddio, heb fawr o fewnbwn gan ddefnyddwyr. Yn lle bod angen i ddefnyddwyr lunio siartiau â llaw gan ddefnyddio meddalwedd fel Excel, mae Hive yn cynhyrchu graffiau hawdd eu darllen yn ddiymdrech.”

I gael mynediad i Hive, rhaid i staff e-bostio tîm Dadansoddeg Gwelliant Cymru lle byddant yn cael mynediad trwy eu cyfrinair mewngofnodi Microsoft. Yna gallwch chi ddechrau defnyddio'r platfform ar unwaith i gasglu gwybodaeth a data ar eich prosiectau gwella.

Mae yna hefyd gefnogaeth dechnegol bwrpasol, felly os bydd defnyddwyr yn dod ar draws unrhyw broblemau gyda'n platfform, gallant gysylltu â'n tîm cymorth ar dudalen Hive SharePoint (Saesneg yn unig) i gael ymateb cyflym.

 

Agored i bawb 

Mae Hive yn hollol rhad ac am ddim i’w ddefnyddio, a gellir caniatáu mynediad i unrhyw weithiwr GIG Cymru sy’n gweithio ym maes gwella neu y mae eu gwaith yn cynnwys gwella. Gellir teilwra'r platfform i anghenion eich sefydliad a bydd ein tîm yn addasu Hive i weithio’r gorau i chi.   

“Mae cael platfform y gellir ei addasu yn galluogi staff ar bob lefel i ddefnyddio Hive. Er enghraifft, mae dangosfwrdd Hive yn rhoi mynediad ar unwaith i ddefnyddwyr at weithgarwch gwella sy’n fyw yn eu sefydliad, sy'n ddelfrydol ar gyfer timau Gweithredol ac uwch reolwyr sydd angen yr oruchwyliaeth drylwyr honno.

“Gan fod arweinwyr yn rhoi ansawdd a diogelwch ar y blaen diolch i’r Ddyletswydd Ansawdd, mae Hive yn helpu i hysbysu staff ar sut i reoli gwelliant yn strategol gan ddefnyddio’r data sy’n cael ei storio’n ddiogel ar y platfform.

“Rydyn ni’n gwybod pa mor brysur a faint o bwysau sydd ar aelodau staff, felly roedden ni eisiau creu platfform hawdd ei ddefnyddio sy’n cadw gwaith gwella yn syml ac sy’n arbed amser i bobl”, ychwanegodd Dominque.

Mae Zoe Gibson, Arweinydd Cadw Cenedlaethol yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn un o’r defnyddwyr sydd wedi helpu i lunio’r platfform trwy ddarparu adborth yn ystod y cyfnodau profi. 

“Fel ystorfa gwella ansawdd (QI) gynhwysfawr, mae Hive yn cynnig dull arloesol o gofnodi, dathlu a rhannu prosiectau gwella cadw sy’n cael eu cynnal ledled Cymru. Mae argaeledd Hive yn grymuso sefydliadau i symud y tu hwnt i ddulliau traddodiadol o wella. Mae’n meithrin diwylliant o gydweithio ar draws y system, lle mae gwybodaeth yn cael ei chyfnewid yn rhwydd, ac arferion gorau’n cael eu rhannu”, dywedodd Zoe.

Hyfforddiant wedi'i deilwra 

Yn ogystal â’r canllawiau defnyddwyr ysgrifenedig a thiwtorialau fideo, gall y tîm gynnal sesiwn gyflwyno Hive yn rhithwir neu wyneb yn wyneb ar gyfer eich tîm neu’ch adran. Os oes gennych ddiddordeb, neu os hoffech gael mynediad ar unwaith, cysylltwch â'r tîm yma (Saesneg yn unig).