Mae canllaw newydd a gyhoeddwyd gan Technoleg Iechyd Cymru (HTW) yn cefnogi mabwysiadu math o lens cyffwrdd fel mater o drefn sy'n arafu myopia - neu olwg byr - rhag datblygu mewn plant a phobl ifanc yng Nghymru.
Myopia yw'r cyflwr llygaid mwyaf cyffredin ar draws y byd ac, os na chaiff ei drin, gall arwain at y risg o ddatblygu nam ar y golwg a dallineb na ellir ei wrthdroi.
Y gofal safonol i drin myopia yng Nghymru yw gwisgo lensys sbectol golwg sengl neu lensys cyffwrdd, a allai gywiro'r golwg ond sydd ddim yn arafu ei ddatblygiad.
Edrychodd tîm ymchwilwyr HTW ar y dystiolaeth sy'n bodoli ar hyn o bryd ar y mathau hyn o lensys cyffwrdd ac ar sbectols i reoli myopia a mathau eraill o lensys cyffwrdd, a daeth canllaw HTW i'r casgliad y gall lensys orthoceratoleg a lensys cyffwrdd meddal amlffocal leihau myopia rhag datblygu yn sylweddol ac felly, y risgiau o gymhlethdodau hirdymor gyda’r golwg, a gallant hefyd fod yn gost-effeithiol o ganlyniad i hyn.
Mae canllaw y sefydliad yn nodi bod y dystiolaeth yn cefnogi defnyddio lensys orthoceratoleg a lensys cyswllt meddal amlffocal yn rheolaidd ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru, er mai dim ond trwy rai clinigau preifat y mae'r triniaethau hyn ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd.
Ychwanegodd yr Athro Peter Groves, Cadeirydd Technoleg Iechyd Cymru:
"Mae'r canllaw hwn yn nodi pwysigrwydd cydnabod myopia mewn plant a phobl ifanc yng Nghymru, gan fod triniaethau ar gael i’w arafu ac o bosibl, lleihau cymhlethdodau golwg tymor hir.
"Rydym yn falch o chwarae ein rhan wrth annog mabwysiadu'r triniaethau arloesol hyn, a allai wneud gwahaniaeth mawr i fywydau plant yng Nghymru yn y dyfodol."
Meddai Dr Susan Myles, Cyfarwyddwr Technoleg Iechyd Cymru:
"Ein nod yw sicrhau bod mynediad cyfartal i'r technolegau iechyd gorau hyn sydd ddim yn feddyginiaethau ar gael yng Nghymru.
"Mae'r canllaw hwn yn rhoi'r posibilrwydd i fwy o blant yng Nghymru gael triniaeth a allai arafu golwg byr rhag datblygu ac felly, gwella ansawdd eu bywyd yn y tymor hir."
Mae Technoleg Iechyd Cymru (HTW) yn cynhyrchu canllawiau cenedlaethol ar ddefnyddio technolegau iechyd a gofal nad ydynt yn feddyginiaethau yng Nghymru. Statws canllaw HTW yw y dylai byrddau iechyd GIG Cymru fabwysiadu eu canllawiau neu gyfiawnhau pam nad ydynt wedi cael eu dilyn.
Gallwch ddarllen y canllaw yn llawn yma.