Mae Prifysgol Abertawe'n cynnig graddau Meistr i uwch arweinwyr sy'n gweithio ym maes iechyd, gofal cymdeithasol a'r trydydd sector trwy Raglen yr Academi Dysgu Dwys.
Mae'r Academi Iechyd a Gofal sy'n Seiliedig ar Werth a'r Academi Dysgu Dwys Cymru Gyfan ar gyfer Arloesi mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn rhan o Raglen Academi Dysgu Dwys (ADD) Llywodraeth Cymru.
Mae angen cynyddol i systemau iechyd a gofal cymdeithasol ddatblygu galluoedd sy'n seiliedig ar werthoedd er mwyn arwain trawsnewidiad ar draws y sefydliad a systemau. Mae angen hefyd i arweinwyr yrru arloesedd mewn systemau, prosesau a thechnolegau iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae'r ddwy academi'n cynnig gradd Meistr gyffrous i uwch-arweinwyr sy'n gweithio ym maes iechyd, gofal cymdeithasol a'r trydydd sector. Mae'r cyrsiau'n grymuso gweithluoedd ledled y byd drwy ddarparu'r arbenigedd, y sgiliau a'r hyder y mae eu hangen arnynt i ysgogi'r gwaith o ailgynllunio systemau iechyd a gofal, gwella canlyniadau a phrofiadau i gleifion a defnyddwyr gwasanaethau a sicrhau bod gwasanaethau'n gynaliadwy.
Ein cyrsiau
MSc Rheoli Iechyd a Gofal Uwch (Seiliedig ar Werth)
Opsiynau astudio rhan-amser ac amser llawn
Gradd Meistr gyda llwybr Iechyd a Gofal Seiliedig ar gyfer gweithwyr proffesiynol sydd â diddordeb mewn datblygu dealltwriaeth a mewnwelediad ar sut i weithredu egwyddorion Seiliedig ar Werth mewn systemau a gwasanaethau Iechyd a Gofal.
Sawl ysgoloriaeth ffi lawn ar gael – Dyddiad Cau Cais: 4pm, Dydd Llun 3 Mehefin 2024
Ysgoloriaethau Academi Dysgu Dwys - Prifysgol Abertawe (swansea.ac.uk)
MSc Rheoli Uwch (Trawsnewid Iechyd ac Arloesedd)
Opsiynau astudio rhan-amser ac amser llawn
Nod y cwrs hwn yw gwella gallu rheolwyr canolig ac uwch mewn systemau iechyd a gofal cymdeithasol i arwain newid trawsnewidiol a sbarduno arloesedd mewn systemau, prosesau a thechnolegau iechyd a gofal.
Ysgoloriaethau rhan-ffi ar gael – Dyddiad Cau Cais: 4pm, Dydd Llun 3 Mehefin 2024
Ysgoloriaethau Academi Dysgu Dwys - Prifysgol Abertawe (swansea.ac.uk)
MSc Blwyddlyfr 2023
Archwiliwch lwyddiant a thaith ryfeddol ein myfyrwyr MSc Uwch Reoli mewn Iechyd a Gofal mewn Blwyddlyfr. Darllenwch am eu cyflawniadau a'u profiadau dysgu, gan amlygu eu prosiectau ymchwil a'r effaith diriaethol y maent wedi'i chael ym meysydd arloesi ac iechyd a gofal Seiliedig ar Werth.
Gweld y blwyddlyfr digidol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn ymwneud â’r cyrsiau a gynigir fel rhan o’r Academi Iechyd a Gofal Seiliedig ar Werth, cysylltwch â’r tîm yn uniongyrchol ar VBHCAcademy@abertawe.ac.uk.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cyrsiau a gynigir fel rhan o Academi Dysgu Dwys Cymru Gyfan ar gyfer Arloesedd mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, cysylltwch â’r tîm yn uniongyrchol: IHSCAcademy@abertawe.ac.uk.