Trydydd parti

Bellach yn ei ail flwyddyn ar bymtheg, mae Gwobrau GIG Cymru yn tynnu sylw at y gwaith gwella ansawdd anhygoel sy'n trawsnewid iechyd a gofal ledled Cymru.

A man celebrating at an awards ceremony

Mae gwobrau 2025 yn cynnwys 12 categori i ddewis ohonynt, sy’n cyd-fynd â'r Ddyletswydd Ansawdd a Safonau Ansawdd Iechyd a Gofal 2023.

Categorïau:

  1. Gwobr Gofal Diogel GIG Cymru
  2. Gwobr Gofal Amserol GIG Cymru
  3. Gwobr Gofal Effeithiol GIG Cymru
  4. Gwobr Gofal Effeithlon GIG Cymru
  5. Gwobr Gofal Teg GIG Cymru
  6. Gwobr Gofal sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn GIG Cymru
  7. Gwobr Arweinyddiaeth GIG Cymru
  8. Gwobr Cynaliadwyedd Gweithlu GIG Cymru
  9. Gwobr Diwylliant Tîm GIG Cymru
  10. Gwobr Gwybodaeth GIG Cymru
  11. Gwobr Dysgu ac Ymchwil GIG Cymru
  12. Gwobr Dull System Gyfan GIG Cymru

Yn ogystal, bydd enillydd y Wobr Cyfraniad Eithriadol i Wella Gofal Iechyd yn cael ei ddewis o blith enillwyr y 12 categori. 

Pam cyflwyno cais i Wobrau GIG Cymru?

Gall eich syniadau ar gyfer newid wneud gwahaniaeth go iawn i'r bobl yn eich gofal, eich sefydliad a'r system iechyd a gofal yn ei chyfanrwydd. Trwy gyflwyno cais, gallwch:

  • Rannu eich llwyddiant a chael cydnabyddiaeth i'ch prosiect a'ch tîm,
  • codi proffil eich gwaith gwella, a
  • bod yn rhan o gymuned o ddysgu a gwella a all ysbrydoli pobl eraill ar draws GIG Cymru.

Sut i gyflwyno cais?

Ewch i gwobraugig.cymru i gael manylion llawn am gyflwyno cais, arweiniad a gwybodaeth am y categorïau.

Mae gennych tan 5:00pm, dydd Gwener 6 Mehefin, i gyflwyno eich cais. Bydd y ceisiadau sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn cael eu cyhoeddi ym mis Gorffennaf.

Peidiwch â cholli'r cyfle hwn! Cyflwynwch gais heddiw ac fe allech chi fod yn enillydd.