Mae ffigurau newydd yn dangos bod ymateb diwydiannau yng Nghymru i bandemig Covid-19 wedi cynhyrchu miliynau o bunnoedd i economi Cymru ac wedi helpu i greu a diogelu cannoedd o swyddi ledled y wlad.
Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, a benodwyd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi diwydiant i ymgysylltu â GIG Cymru drwy gydol y pandemig, wedi datgelu bod y busnesau y maent wedi gweithio â nhw yng Nghymru i frwydro yn erbyn y feirws wedi cyfrannu dros £34m at yr economi yn ogystal â chefnogi dros 620 o swyddi.
Mae papur briffio newydd gan Gonffederasiwn GIG Cymru yn nodi sut mae busnesau ledled Cymru wedi gweithio’n strategol i helpu i fynd i’r afael â Covid-19 drwy gynyddu cynhyrchiant, drwy arloesi a thrwy gyfnewid eu gweithgareddau i helpu i ddatblygu a chyflenwi atebion sydd eu hangen yn ddybryd. Mewn sawl achos, cafodd hyn ei gefnogi gan gronfa SMARTCymru Llywodraeth Cymru, sy’n helpu busnesau Cymru i ddatblygu, gweithredu a masnacheiddio cynnyrch, prosesau a gwasanaethau newydd.
Ym mis Ebrill, cyhoeddodd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, Diwydiant Cymru a Llywodraeth Cymru alwad genedlaethol i ddiwydiant yn annog busnesau i gynnig eu cymorth i helpu GIG Cymru i ymateb i Covid-19.
Ymatebodd dros 150 o fusnesau i’r alwad honno a chyflwynwyd miloedd o gynigion o gymorth i Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, sef y pwynt cyswllt unigol a benodwyd i dderbyn, rheoli a chyfeirio ymholiadau priodol at GIG Cymru.
Mewn cydweithrediad â Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, parhaodd y sefydliad i weithio gyda busnesau mewn amrywiol sectorau i ddarparu cynnyrch ac offer angenrheidiol ar gyfer gwasanaethau rheng flaen. Roedd hyn yn cynnwys cyfarpar diogelu personol (PPE) a hylif diheintio dwylo, datrysiadau digidol ar gyfer gwasanaethau iechyd a chyfleusterau profi critigol a fyddai’n gallu cefnogi strategaethau profi cenedlaethol.
Mae’r partneriaethau yng Nghymru a’r gwaith arloesol sy’n mynd rhagddo yn parhau i helpu i drin ac amddiffyn pobl ledled y wlad a thu hwnt, gydag atebion yn cael eu hallforio i bedwar ban byd.
Mae Cydffederasiwn GIG Cymru a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi cynhyrchu papur briffio sy’n dangos rôl y diwydiant wrth gefnogi GIG Cymru i ymateb i’r pandemig. Yn benodol, mae’r adroddiad yn tynnu sylw at bwysigrwydd hanfodol partneriaethau rhwng diwydiant a’r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol.
Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:
“Eleni, rydyn ni wedi gweld busnesau Cymru yn addasu ac yn arloesi i gynnig eu cymorth yn yr ymateb i Covid-19. Mae ein partneriaeth â Chydffederasiwn GIG Cymru a grŵp llywio o gydweithwyr lefel uchel ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn sicrhau ein bod yn gwbl ymwybodol o’r heriau y maent yn eu hwynebu ac mae hynny’n ein galluogi i weithio gyda diwydiant i ddod o hyd i atebion.
“Rydyn ni wedi cael ein synnu gan y creadigrwydd a’r ymrwymiad a welwyd nid yn unig gan aelodau o’n diwydiant gwyddorau bywyd ffyniannus, ond hefyd gan fusnesau ar draws amrywiaeth o sectorau eraill sydd wedi gweithio’n ystwyth a chyflym i greu atebion sydd wir eu hangen i ymateb i’r pandemig.
“Mae ymdrechion ein busnesau brodorol a chwmnïau rhyngwladol sydd wedi ymuno â ni yn helpu i achub bywydau yng Nghymru a thu hwnt. Mae eu gwaith hefyd wedi cynorthwyo llawer o swyddi ac wedi cynhyrchu miliynau ar gyfer yr economi, sy’n brawf o lefel y dalent sydd gennym yma yng Nghymru.”
Drwy weithio mewn partneriaeth â Chonffederasiwn GIG Cymru â’r GIG, mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi ymrwymo i sbarduno a mabwysiadu arloesedd ar draws iechyd a gofal cymdeithasol. Gyda’i gilydd, maent yn gweithio i adeiladu ar y cysylltiadau a sefydlwyd drwy gydol pandemig Covid-19 er mwyn parhau i greu system gofal iechyd gadarn a chydnerth yng Nghymru a thu hwnt.
Dywedodd Darren Hughes, Cyfarwyddwr Conffederasiwn GIG Cymru:
“Mae ein partneriaethau â chyrff fel Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi bod yn hanfodol er mwyn cefnogi sefydliadau GIG Cymru â’n staff drwy gydol y pandemig.
“Mae eu cefnogaeth wedi bod yn amhrisiadwy ac wedi dangos pwysigrwydd cydweithredu rhwng diwydiant a gwasanaethau gofal iechyd i sicrhau newid yn gyflym ac ar raddfa fawr. Edrychwn ymlaen at barhau i adeiladu ar y berthynas hon a fydd yn allweddol nid yn unig i wella iechyd a lles pobl Cymru yn y dyfodol, ond hefyd i gefnogi economi iach a chynaliadwy.”